Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Astudiaethau Adeiladu

BSc (Anrh) Astudiaethau Adeiladu

Opsiynau Rheolaeth Adeiladaeth neu Reolaeth Cynnal a Chadw

Pam dewis Astudiaethau Adeiladu?

Un o sectorau mwyaf yr economi yw’r diwydiant adeiladaeth. Bydd yna’n wastad alw am godi adeiladau newydd tra bod adeiladau sy’n bodoli’n barod angen gofal a sylw er mwyn cynnal a chadw eu potensial, addasu i ofynion preswyl perchnogion neu ddeddfwriaethol, a chwrdd â meini prawf perfformiad a hyfywedd economaidd. Gan hynny mae ar gadwraeth a rheolaeth ein hamgylchedd adeiledig angen gwybodaeth fanwl a sgiliau arbenigol, nid yn unig mewn technegau adeiladu modern ond hefyd yn y gyfraith, mewn economeg, rheolaeth fusnes a phatholeg diffygion a dirywiad. Elfennau allweddol y cwrs yma yw’r gyfraith, technoleg, economeg a chaffael sgiliau rheolaethol proffesiynol a gwybodaeth fusnes. Bydd y cwrs yn eich helpu hefyd i ddatblygu ystod o sgiliau personol allweddol gan gynnwys sgiliau arwain tîm, dadansoddi ac ymholi, cyflwyno, datrys problemau, arloesi a rheoli prosiect.  

Nodweddion arbennig

  • Llwybrau dewisol o’r ail flwyddyn. Gallwch ddewis rhwng llwybr mewn Rheolaeth Adeiladaeth, Rheolaeth Cynnal a Chadw Adeiladau neu Astudiaethau Adeiladu.
  • Mae grwpiau tiwtorial bychan eu maint yn golygu fod yna lefel uchel o gefnogaeth a sylw gan diwtoriaid.
  • Mae’r cwrs yn cynnwys ymroddiad i gynaliadwyedd ym mhob agwedd ar y broses adeiladu a’r cyfle i archwilio dulliau modern o adeiladu a datblygiad cynaliadwy.
  • Achredir y cwrs yn llawn gan ddau gorff proffesiynol ac yn darparu mynediad i gymwysterau trosglwyddadwy Ewropeaidd a Statws Siartredig yn y DU.
  • Dilyniant llwybrau a mynediadau hyblyg.
  • Mynediad uwch i’r rheiny gyda chymwysterau proffesiynol neu academaidd perthnasol.
  • Cyfleoedd i fynd ar ymweliadau Ewropeaidd a thramor.

Cyfleoedd gyrfaol

Un o sectorau mwyaf yr economi yw’r diwydiant adeiladaeth. Gan hynny mae’r maes yma yn cynnig ystod o gyfleoedd galwedigaethol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae cyfleoedd gyrfaol yn bodoli o fewn llywodraeth leol a chanolog, cymdeithasau tai, contractio adeiladu, datblygu eiddo ac arfer proffesiynol. 

Gwybodaeth am y cwrs

BSc (Anrh) Astudiaethau Adeiladu

Cynnwys y cwrs

Yn gynnar yn y cwrs byddwch yn astudio tirfesur ymarferol, adeiladaeth adeiladau domestig ac agweddau cyfreithiol megis cyfraith iechyd a diogelwch a chyfraith amgylchedd adeiledig. Byddwch yn cael sgiliau mewn dylunio gyda chymorth cyfrifiadurol ac yn datblygu sgiliau proffesiynol allweddol eraill. 

Ar ôl cwblhau rhan gyntaf y cwrs byddwch yn dewis pa lwybr arbenigol i’w ddilyn: rheolaeth adeiladaeth, rheolaeth cynnal a chadw adeiladau neu astudiaethau adeiladu. Pa lwybr bynnag y dewiswch, byddwch yn cwmpasu’r pynciau craidd megis technoleg adeiladu masnachol, rheoli a rheoliadau adeiladu, dulliau adeiladu modern a byddwch yn dysgu sut i gynnal gwerthusiadau datblygu, tendro a darparu amcangyfrifon. Byddwch hefyd yn ymgymryd ag opsiynau mwy arbenigol sy’n gysylltiedig â’r llwybr a ddewiswyd gennych.   

Asesu

Mae asesu ar gyfer y cwrs yn seiliedig ar bortffolios, tasgau gweithle dynwaredol megis adroddiadau, papurau briffio, cyngor i gleientiaid a chyflwyno defnyddiau. Mae yna hefyd seminarau a gweithgareddau tîm.

Gofynion mynediad

200 pwynt UCAS neu gyfwerth. Gweler y .

Côd UCAS

Llawn amser: Astudiaethau Adeiladu (Rheolaeth Adeiladaeth) K222
Llawn amser: Astudiaethau Adeiladu (Rheolaeth Cynnal a Chadw) K223
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 mlynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk