Astudiaethau Anifeiliaid
Wendy Gacem - Animal Studies student
Pam dewis Astudiaethau Anifeiliaid?
Mae’r sector anifeiliaid yn ddiwydiant sy’n tyfu ac mae yna alw mawr am arbenigwyr wedi’u hyfforddi i weithio ynddo. Os oes diddordeb gennych mewn dilyn gyrfa yn y diwydiant yma, bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r wybodaeth a’r sgiliau sy’n ofynnol. Yn ogystal â gwybodaeth a sgiliau sy’n ymwneud â’r pwnc, bydd y cwrs yma yn eich darparu gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy megis sgiliau gweithio’n unigol a gweithio mewn tîm, gwerthuso beirniadol, rheoli amser a sgiliau trefnu.
Nodweddion arbennig
- Cyfuniad cryf o fodiwlau galwedigaethol ac academaidd.
- Cyflwyniad i arferion gweithleoedd mewn amgylcheddau gwaith go iawn.
- Cysylltiadau ardderchog gyda diwydiant.
- Staff gyda gwybodaeth arbenigol ac ystod da o gymwysterau academaidd a galwedigaethol ac amrywiaeth o brofiad perthnasol i ddiwydiant.
- Bydd cwblhau’r radd sylfaen yma yn eich galluogi i symud ymlaen i’r cwrs llanw BSc Anrhydedd.
Cyfleoedd gyrfaol
Gallai’r cwrs yma gyflwyno cyfleoedd i chi weithio mewn ystod eang o feysydd megis cyrff lles anifeiliaid, elusennau a sefydliadau swolegol. Mae hyfforddiant ac ymddygiad anifeiliaid yn faes sy’n tyfu ac mae yna gyfleoedd hefyd i weithio mewn meddygfeydd milfeddygaeth, cwmnïau bwyd anfeiliaid a chwmnïau milfeddygol a fferyllyddol.
Bydd cwblhau’r cwrs yma yn llwyddiannus yn golygu y byddwch yn gallu symud ymlaen i flwyddyn olaf gradd anrhydedd gysylltiedig.
Gwybodaeth am y cwrs
FdSc Astudiaethau Anifeiliaid
Cynnwys y cwrs
Ar y cwrs yma byddwch yn dysgu am ymarferoldebau gweithio yn y sector anifeiliaid. Byddwch yn astudio materion cyfredol mewn lles anifeiliaid a datblygu eich sgiliau mewn hwsmonaeth anifeiliaid. Byddwch yn cwmpasu pynciau megis gwyddor swoleg, gwyddor ymddygiad anifeiliaid ac anthroswoleg. Byddwch hefyd yn dysgu am iechyd anifeiliaid, deietau, sut mae anifeiliaid yn dysgu a dulliau a thechnegau hyfforddi yn ogystal â gwarchodaeth a bridio.
Asesu
Mae’r cwrs yn cynnwys ystod o fodiwlau a asesir gan waith cwrs damcaniaethol, ac ymarferol mewn rhai achosion. Ceir arholiadau diwedd modiwl ar gyfer rhai modiwlau yn ogystal.
Gofynion mynediad
120 pwynt o lefel A/UG, Diploma Cenedlaethol neu gyfwerth (cyfanswm o 60 pwynt wedi’u cael o lefelau UG). Croesewir cymhwyster cysylltiedig ag anifeiliaid, megis Diploma Cenedlaethol mewn Rheolaeth Anifeiliaid neu gymwysterau A2 cysylltiedig â Gwyddoniaeth yn arbennig. Yn ogystal, 4 TGAU gradd C neu uwch (gan gynnwys Gwyddoniaeth, Saesneg a Mathemateg) neu gyfwerth.
Croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr heb gymwysterau safonol ond sy’n gallu dangos eu gallu i ddilyn y rhaglen yn llwyddiannus. Mae mynediad yn ddibynnol ar asesu profiad blaenorol, cyfweliad llwyddiannus, geirda ac asesu diagnostig i benderfynu a ydych yn addas ar gyfer y cwrs. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad yn hanfodol.
Gweler y general entry requirements.
Côd UCAS
Llawn amser: D300
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 2 flynedd
Rhan amser: 3 blynedd