Text begins here:
Astudiaethau Tai
BSc (Anrh) Astudiaethau Tai
FdSc Astudiaethau Tai
HNC Tai a Chymunedau Cynaliadwy
HNC Tai lle ceir Cefnogaeth
Pam dewis Astudiaethau Tai?
Dengys ymchwil fod darparu tai o ansawdd da yn hanfodol i les ac iechyd unigolion a chymunedau. Bydd eich astudiaeth o dai yn mynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol: sut mae tai yn cael eu darparu o fewn y DU? Beth allwn ei ddysgu gan wledydd eraill? Sut allwn ni helpu pobl i gael gafael ar dai? Beth mae datblygu tai newydd a gwella tai presennol yn ei olygu? Er mwyn cyflawni hyn, bydd y cyrsiau yn dod ag elfennau o gymdeithaseg, economeg, gwleidyddiaeth, y gyfraith, rheolaeth busnes, cyllid a dylunio a datblygu at ei gilydd. Bydd hefyd yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau cysylltiedig â gwaith gan gynnwys gwaith tîm, cyfathrebu, cyflwyno, rheoli prosiect, trefnu, meddwl yn feirniadol, ymwybyddiaeth strategol, dadansoddi a datrys problemau.
Mae’r cyrsiau yn ymgorffori ystod o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau trosglwyddadwy. Mae’r rhain yn cynnwys: sgiliau ysgrifennu adroddiadau, cyflwyno a gweithio mewn grŵp. Mae’r cwrs hefyd yn annog myfyrwyr i ymwneud ag arfer myfyriol.
Nodweddion arbennig
- Mae’r BSc (Anrh) Astudiaethau Tai yn gwrs gradd atodol, gall myfyrwyr symud ymlaen o’r FdSc yn syth i’r radd anrhydedd BSc.
- Ceir pwyslais cryf ar ddysgu seiliedig ar waith. Anogir myfyrwyr i gymhwyso eu hastudiaethau academaidd i sefyllfaoedd ymarfer.
- Mae gan y tiwtoriaid gysylltiadau agos gyda diwydiant a chyrff proffesiynol ac mae’r rhaglenni wedi cael eu datblygu mewn ymgynghoriaeth â chyflogwyr.
- Defnyddir amrywiaeth o ddulliau dysgu ac addysgu gan gynnwys ymweliadau safle, astudiaethau achos “bywyd go-iawn” a gwaith grŵp.
- Ar ôl cwblhau’r cwrs HNC gallwch fynd yn syth i flwyddyn olaf y Radd Sylfaen mewn Astudiaethau Tai.
- Mae gan staff brofiad o arfer tai.
- Bydd pob myfyriwr/wraig sy’n cofrestru ar raglenni tai yn dod yn aelodau sy’n fyfyrwyr o’r Sefydliad Tai Siartredig.
- Achredir y FdSc Astudiaethau Tai gan y Sefydliad Tai Siartredig (CIH) ac yn ymgorffori gofynion APEX. O ganlyniad bydd pob myfyriwr/wraig sy’n cwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus yn gymwys i wneud cais am aelodaeth broffesiynol lawn o’r CIH.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae yna gyfleoedd gyrfaol o fewn y sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn rheolaeth tai, cyngor ynglŷn â thai, datblygu tai, cefnogaeth tai, atal digartrefedd, cyfranogiad tenantiaid ac adnewyddu a gorfodaeth. Os ydych yn dewis astudio’r radd sylfaen mae yna gyfle i symud umlaen i’r radd anrhydedd.
Gwybodaeth am y cwrs
BSc (Anrh) Astudiaethau Tai
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn datblygu eich sgiliau rhyng-broffesiynol, dysgu sut i reoli prosiectau yn llwyddiannus a gwerthfawrogi’r rhyng-berthynas rhwng tai ac adfywiad cynaliadwy. Byddwch hefyd yn gallu dewis opsiynau o ystod o fodylau megis mentora ar gyfer arfer tai a phrisio adeiladau. Byddwch yn cynhyrchu traethawd estynedig ar faes o ddiddordeb i chi gan roi cyfle i chi ddatblygu gwybodaeth fanwl am agwedd ar dai y gallwch uniaethu â hi a chyfrannu at anghenion y corff yr ydych yn gweithio iddo.
Asesu
Mae asesu ar gyfer y cwrs yn cynnwys portffolios, tasgau gweithle dynwaredol megis adroddiadau, papurau briffio, cyngor i gleientiaid a chyflwyno defnyddiau. Mae yna hefyd seminarau a gweithgareddau tîm.
Gofynion mynediad
Mae’n rhaid i chi fod wedi cwblhau’r FdSc Astudiaethau Tai yn llwyddiannus.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 4 blynedd
FdSc Astudiaethau Tai
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn dysgu am bolisi tai a’i gyd-destunau cyfreithiol, gweinyddol, ariannol a moesegol. Byddwch yn astudio cymunedau cynaliadwy ac yn datblygu dealltwriaeth o wasanaethau tai a’u cyflenwad. Byddwch hefyd yn edrych ar strategaeth a chynllunio busnes yng nghyd-destun tai yn ogystal â chynllunio a datblygu tai.
Asesu
Defnyddir ystod amrywiol o arferion aseinio. Bydd gofyn i chi gyflwyno traethodau, adroddiadau, myfyrdodau personol, a chymerir agwedd arloesol tuag at ddysgu trafodedig ar gyfer aseiniadau seiliedig ar waith. Mae asesu yn deillio o ac ar gyfer dysgu, gydag atborth cyfansymiol a ffurfiannol yn cael eu roi i chi ar ôl i chi gwblhau eich aseiniad.
Gofynion mynediad
100 pwynt yn lefel A neu gyfwerth. Mae’r cwrs yma wedi cael ei ddatblygu mewn ymateb i alwadau galwedigaethol arfer tai a chan hynny yn rhoi pwyslais cryf ar y cymhwysiad ymarferol o ddamcaniaeth i ymarfer. O ganlyniad, bydd myfyrwyr sy’n cael eu recriwtio ar y rhaglen fel arfer yn gweithio mewn arfer tai naill ai mewn cymhwyster cyflogedig neu wirfoddol sy’n ddigonol i’w galluogi i gwrdd â chanlyniadau dysgu’r cwrs.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 3 blynedd
HNC Tai a Chymunedau Cynaliadwy
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn dysgu am bolisi tai a’i gyd-destunau cyfreithiol, gweinyddol, ariannol a moesegol. Byddwch yn astudio cymunedau cynaliadwy ac yn datblygu dealltwriaeth o wasanaethau tai a’u dosbarthiad yn ogystal â sut mae cyrff yn cael eu rheoli. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil mewn maes o’ch dewis chi.
Asesu
Defnyddir ystod amrywiol o arferion aseinio. Bydd gofyn i chi gyflwyno traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, myfyrdodau personol, a chymerir agwedd arloesol tuag at ddysgu trafodedig ar gyfer aseiniadau seiliedig ar waith. Mae asesu yn deillio o ac ar gyfer dysgu, gydag atborth cyfansymiol a ffurfiannol yn cael eu roi i chi ar ôl i chi gwblhau eich aseiniad.
Gofynion mynediad
Diploma neu Dystysgrif Cenedlaethol BTEC mewn maes priodol; AVCE/GNVQ mewn maes galwedigaethol priodol neu gymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill; Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch wedi’i gwobrwyo gan sefydliad addysg bellach cymeradwyedig neu fod wedi pasio TAG mewn pwnc perthnasol. 100 pwynt yn lefel A neu gyfwerth.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd
HNC Tai lle ceir Cefnogaeth
Cynnwys y cwrs
Byddwch yn dysgu am bolisi tai a’i gyd-destunau cyfreithiol, gweinyddol, ariannol a moesegol. Byddwch yn astudio cymunedau cynaliadwy ac yn datblygu dealltwriaeth o wasanaethau tai a’u dosbarthiad yn ogystal â sut mae cyrff yn cael eu rheoli. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrosiect ymchwil mewn maes o’ch dewis chi.
Asesu
Defnyddir ystod amrywiol o arferion aseinio. Bydd gofyn i chi gyflwyno traethodau, adroddiadau, cyflwyniadau, myfyrdodau personol, a chymerir agwedd arloesol tuag at ddysgu trafodedig ar gyfer aseiniadau seiliedig ar waith. Mae asesu yn deillio o ac ar gyfer dysgu, gydag atborth cyfansymiol a ffurfiannol yn cael eu roi i chi ar ôl i chi gwblhau eich aseiniad.
Gofynion mynediad
Diploma neu Dystysgrif Cenedlaethol BTEC mewn maes priodol; AVCE/GNVQ mewn maes galwedigaethol priodol neu gymwysterau Lefel 3 cysylltiedig eraill; Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch a wobrwywyd gan sefydliad addysg bellach cymeradwyedig neu fod wedi pasio TAG lefel A mewn pwnc perthnasol. 100 pwynt yn lefel A neu gyfwerth. Gweler y general entry requirements.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|