Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth

*

Pam dewis Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth?

Mae gradd sylfaen Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth Prifysgol Glyndŵr yn gwrs galwedigaethol a gynlluniwyd gyda diwydiant i gwrdd ag angehenion diwydiant. Os ydych yn gobeithio hybu eich rhagolygon gyrfaol yn y maes eang yma o beirianneg, yna mae’r cwrs yma ar eich cyfer chi. 

Byddwch yn dysgu technolegau sy’n rhychwantu’r maes, gan ddatblygu’r sgiliau sy’n ofynnol gan beirianwyr/technegwyr cymwysedig sy’n cynnal a chadw, graddnodi, manylu, gosod, cywiro ac atgyweirio systemau.

Mae astudio yn y maes yma yn cynnig dewis, sefydolgrwydd, heriau a rhagolygon ar gyfer hybu eich gyrfa i chi, ac ar gyfer cael cymwysterau pellach.

Nodweddion arbennig

  • Bwriad amrediad eang y cwrs yma yw eich gwneud yn gaffaeliad ar gyfer unrhyw ddarpar gyflogwr. Gan gwmpasu modiwlau diwydiannol arbenigol, bydd y cwrs yn eich galluogi i fynd i unrhyw un o’r meysydd sy’n dod dan y teitl Peirianneg Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth.
  • Byddwch yn gymwys i ymuno a’r Sefydliad Mesur a Rheoli (IMC) neu’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) – sef Sefydliad y Peirianwyr Trydanol gynt (IEE) – ac fel aelod myfyriwr.

Cyfleoedd gyrfaol

Gall peiriannydd/technegydd Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth ddisgwyl manteision a chyflog uwch na’r cyffredin oherwydd y lefel ofynnol o sgiliau, gwybodaeth a chyfrifoldeb sydd yna. Mae pobl o’r fath, gyda’r cymwysterau priodol yn arbennig, yn brin iawn ar hyn o bryd.

Gwybodaeth am y cwrs

FdEng Awtomatiaeth, Offeryniaeth a Rheolaeth*

Cynnwys y cwrs

Yn lefel gyntaf eich astudiaeth byddwch yn dysgu sgiliau a gwybodaeth craidd, gan gynnwys rheolaeth, offeryniaeth, mesur a phrofi a chymhwyso a phrofi. Byddwch hefyd yn astudio pynciau a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y gweithle, er enghraifft busnes a rheolaeth, iechyd a diogelwch, ymchwilio seiliedig ar waith a hyfforddiant diwydiannol. Mae’r ail lefel yn mynd â chi i’r lefel nesaf, gan astudio pynciau megis systemau PLC, rhwydweithiau data diwydiannol, offeryniaeth, rheolaeth, diagnosteg a systemau dylunio peirianyddol. Rhoddir cryn sylw i sgiliau proffesiynol a rheoli prosiect hefyd. Ymgymerir â phrosiect yn ogystal, mewn maes sy’n berthnasol i’ch diddordebau a’ch anghenion gyrfaol.

Asesu

Asesir y radd yma yn gyfan gwbl gan waith cwrs.

Gofynion mynediad

Mae’r gofynion academaidd ar gyfer y cwrs yma yn 100 pwynt o leiaf; fel arall fe ellid derbyn Tystysgrif Genedlaethol neu Gwrs Mynediad. Mae’n bosibl y cewch eich derbyn heb gymwysterau ffurfiol os gallwch ddangos fod gennych brofiad addas. Bydd disgwyl i chi fod yn gweithio mewn diwydiant perthnasol a chael cefnogaeth eich cyflogwr i astudio’r cwrs yma. Gweler y .

Côd UCAS

Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Rhan amser: 2 flynedd

* Mae’r cwrs yma yn disgwyl cael ei ddilysu

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk