Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Datblygiad Cynaliadwy

BSc (Anrh) Datblygiad Cynaliadwy

Pam dewis Datblygiad Cynaliadwy?

Mae yna lawer o faterion sy’n rhaid eu hystyried wrth adeiladu a datblygu aideladau newydd. Mae’r rhain yn cynnwys y gyfraith, technoleg, ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol a dylunio. Bydd y radd hon yn canolbwyntio ar Ddatblygiad Cynaliadwy yn ogystal â chwmpasu meysydd tirfesur a gwerthusiadau. Trwy gydol y cwrs byddwch yn arddangos gwybodaeth dechnegol o’r amgylchedd adeiledig yn ogystal ag ystod o nodweddion personol sy’n cynnwys arwain tîm, dadansoddi ac ymholi, cyflwyno, datrys problemau, sgiliau dylunio ac arloesi.

Nodweddion arbennig

  • Achredir y radd yma yn y DU ac yn Ewrop gan Gymdeithas Peirianwyr Proffesiynol Ewrop.
  • Byddwch yn gymwys i ymuno â Chymdeithas y Peirianwyr Adeiladu a’r Sefydliad Adeiladu Siartredig ar lefel myfyrwyr, ar argymhelliad tiwtor, mae aelodaeth yn ddi-dâl fel arfer neu ar raddfa gonsesiynol.
  • Mae yna le o fewn y radd i archwilio meysydd o ddiddordeb unigol, er bod yna bwyslais arbennig ar ddulliau adeiladu modern gan ddefnyddio defnyddiau cynaliadwy a phwyslais hefyd ar effeithiau ffynonellu ar economïau lleol.
  • Byddwch yn cael y cyfle i ymweld â safleoedd yn y DU ac yn Ewrop.

Cyfleoedd gyrfaol

Y diwydiant adeiladu yw un o’r diwydiannau mwyaf yn y DU, ac mae yna alw mawr am weithwyr proffesiynol yn y ddisgyblaeth yma i reoli prosiectau adeiladu cynaliadwy trwy’r byd i gyd. 

Gwybodaeth am y cwrs

BSc (Anrh) Datblygiad Cynaliadwy

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn astudio’r dechnoleg adeiladaeth ac amgylchedd adeiledig, cael sgiliau dylunio â chymorth cyfrifiadurol a chwmpasu’r agweddau cyfreithiol megis cyfraith iechyd a diogelwch a chyfraith amgylchedd adeiledig. Byddwch yn dysgu am ddatblygiad cynaliadwy ac yn ymgymryd â phrosiect am y pwnc yma. Byddwch hefyd yn astudio ynni adnewyddadwy a thechnolegau cynaliadwy. Yn rhannau olaf y cwrs bydd yna gyfleoedd i ddewis o ystod o fodylau megis adnewyddu trefol a chaffael a datblygu tir.

Asesu

Mae’r dulliau asesu yn cynnwys tasgau seiliedig-ar-waith dynwaredol, cyflwyniadau, dyluniadau, adroddiadau proffesiynol ac aseiniadau grŵp gyda thasgau tîm, rhai ohonynt yn amser reoledig. 

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yw 200 pwynt UCAS. Croesewir ymgeiswyr gyda chymwysterau eraill a/neu brofiad perthnasol. Gallai y rheiny gyda chymwysterau proffesiynol neu gymwysterau lefel addysg uwch gael mynediad ar lefel uwch. Gweler y general entry requirements.

Côd UCAS

Llawn amser: K290
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 mlynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk