Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Gwerthu Tai

BSc (Anrh) Gwerthu Tai

Pam dewis Gwerthu Tai?

Mae’r farchnad eiddo yn ddiwydiant anferth, sy’n cynnwys rheoli a gwerthu eiddo ar gyfer dibenion masnachol, diwydiannol, hamdden a thai. Bydd eich astudiaethau yn cynnwys y materion allweddol sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hyn gan gynnwys buddsoddi, adeiladaeth, economeg gymdeithasol, y gyfraith, gofal cwsmeriaid, gwerthusiadau a chynnal a chadw. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau cyflwyno a chyfathrebu, gwaith tîm, datrys problemau, creadigrwydd a dylunio, rhifedd a TG, yn ogystal â’r gallu i reoli amser a phobl. 

Nodweddion arbennig

  • Mae gan y cwrs gydnabyddiaeth broffesiynol ledled pob gwlad UE ac yn gallu arwain at statws Siartredig yn y DU.
  • Achredir y cwrs yn llawn gan y Sefydliad Adeiladu Siartredig (Cyfadran Pensaernïaeth a Thirfesur) ar lefel Gradd Anrhydedd ac ar lefel Diploma gan Gymdeithas Genedlaethol y Gwerthwyr Tai.
  • Yn ogystal, mae’r Conseil Européen des Professions Immobilières (CEPI), y corff UE eang, yn cydnabod y radd fel cymhwyster trosglwyddadwy mewnol ac yn gwobrwyo ei dystysgrif ei hun i raddedigion.
  • Trafodir materion modern fel cynaliadwyedd, safbwyntiau gwyrdd ac asesu ynni ar y cwrs.
  • Mae gan yr aelodau staff gefndiroedd proffesiynol a chysylltiadau â mudiadau rhyngwladol a chyrff proffesiynol yn y DU.
  • Mae mynediad uwch ar gael i’r rheiny gyda chymwysterau academaidd neu broffesiynol academaidd.
  • Graddfa uchel o lwyddiant; amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol; cofnod ragorol o swyddi.
  • Cyfleoedd ar gyfer teithiau Ewropeaidd a thramor.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae’r rhain yn cynnwys tirfesur, gwerthuso, gwerthu eiddo, rheolaeth breswyl, marchnata eiddo, rheolaeth fasnachol a chaffael a chael gwared ar dir ac eiddo i gleientiaid preifat, busnesau corfforaethol a chwmnïau buddsoddi, banciau, manwerthwyr a diwydianwyr o’r DU, yr UE a Thramor.   

Gallech weithio mewn asiantaeth breifat ond mae llawer erbyn hyn yn cael eu cyflogi mewn cyrff mawrion ble mae eiddo yn hanfodol ar gyfer tai, busnes, diwydiant, hamdden ac adloniant. 

Gwybodaeth am y cwrs

BSc (Anrh) Gwerthu Tai

Cynnwys y cwrs

Yn gynnar yn y cwrs byddwch yn astudio tirfesur ymarferol, adeiladaeth adeiladu domestig ac agweddau cyfreithiol megis cyfraith iechyd a diogelwch a chyfraith amgylchedd adeiledig. Byddwch yn dysgu sut i ymgymryd â gwerthusiadau ac yn astudio arfer gwerthu tai. Byddwch hefyd yn gallu dewis o blith modylau dewisol megis cymdeithaseg drefol, arfer datblygu cynaliadwy ac adnewyddu trefol. Yn rhan olaf y cwrs byddwch yn cwblhau prosiect ymchwil sy’n eich galluogi gael gwybodaeth fanwl mewn maes o’ch dewis chi.

Asesu

Mae asesu ar gyfer y rhaglen yn seiliedig ar bortffolios, tasgau gweithle dynwaredol megis adroddiadau, papurau briffio, cyngor i gleientiaid a chyflwyno defnyddiau. Mae yna hefyd seminarau a gweithgareddau tîm. 

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y BSc (Anrhydedd) yw 200 pwynt UCAS. Croesewir ceisiadau gan bobl gydag ystod eang o gymwysterau, profiad neu o unrhyw oedran a chefndir. Gall y rheiny gyda chymwysterau proffesiynol neu lefel addysg uwch eraill gael mynediad uwch i’r ail neu’r drydedd flwyddyn. Gweler y . 

Côd UCAS

Llawn amser: N236
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser: 5 mlynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk