Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Gwyddoniaeth Fforensig

BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig

BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig gyda Chyfiawnder Troseddol

FdSc Gwyddoniaeth Fforensig

Pam dewis Gwyddoniaeth Fforensig?

Mae gwyddonwyr fforensig yn defnyddio eu sgiliau dadansoddol a gwyddonol i helpu i ddatrys ystod eang o achosion. Mae’r graddau eang, rhyngddisgyblaethol, seiliedig ar sgiliau hyn wedi’u cynllunio i ddatblygu eich sgiliau labordy ac ymchwiliol. Yn ogystal â ennill gwybodaeth wyddonol helaeth, byddwch hefyd yn datblygu ystod eithriadol o sgiliau trosglwyddadwy gan gynnwys ymchwil, ysgrifennu adroddiadau, meddwl yn feirniadol, datrys problemau, cyfathrebu, gweithio mewn tîm, sgiliau rhifyddeg a mathemategol a gwneud penderfyniadau. Mae galw mawr am y sgiliau hyn gan gyflogwyr graddedigion.  

Nodweddion arbennig

  • Byddwch yn cael cymhwyster gwyddonol y mae galw mawr amdano gan lawer o gyflogwyr.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff ymchwil-weithredol, profiadol iawn.
  • Labordy ymchwilio lleoliad troseddau pwrpasol.
  • Cyfleoedd dysgu yn y gweithle.
  • Profiad ymarferol o offer labordy modern.
  • Modiwlau datblygedig wedi’u harwain gan ymchwil ar ddulliau dadansoddi.
  • Arfer go iawn mewn llys.
  • Chwarae rôl ymchwilio mewn lleoliadau trosedd wedi’u gosod gan uwch CSIs.
  • Cyfleoedd i fynychu cyfarfodydd y Gymdeithas Gwyddoniaeth Fforensig.
  • Rhywfaint o gefnogaeth diwtorial ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg.
  • Fel myfyriwr/wraig ar y cyrsiau hyn byddwch yn gymwys i fod yn Aelod dan Hyfforddiant o’r Gymdeithas Gwyddoniaeth Fforensig. (Bydd angen i chi wneud cais uniongyrchol i’r Gymdeithas Gwyddoniaeth Fforensig. Mae yna ffi blynyddol o £40.00* *cywir wrth ysgrifennu)

Cyfleoedd gyrfaol

Mae’r cyrsiau hyn yn darparu cyfleoedd gyrfaol rhagorol mewn gwyddoniaeth fforensig a meysydd ehangach o gyflogaeth wyddonol ac anwyddonol. Mae graddedigion diweddar ar y cwrs wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd mewn cynghorau lleol, ysbytai, heddluoedd, i’r Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig ac mewn ystod o waith mewn labordai. Mae graddedigion hefyd wedi mynd ymlaen i gael graddau uwch a chymwysterau hyfforddi athrawon.

Gwybodaeth am y cwrs

BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn astudio meysydd tystiolaeth fforensig, cemeg fforensig a thechnegau ffotograffig. Mae’r cwrs yn cwmpasu pynciau allweddol bioleg celloedd, bioleg fforensig, geneteg fforensig a chyffuriau a thocsicoleg. Byddwch hefyd yn datblygu ystod eang o sgiliau ymarferol megis sgiliau labordy, ystadegau a sgiliau dadansoddi data, dysgu am ddulliau dadansoddol, chwilio am ac adfer tysiolaeth a chynnal ymchwiliadau ymarferol mewn lleoliadau trosedd.

Asesu

Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu method; y rheiny sy’n cynnwys lleoliad trosedd a chwarae rôl yn y llys, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy, ac arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl gan amryw o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.

Gofynion mynediad

200 pwynt yn lefel A neu gyfwerth ar gyfer y BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig a’r BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig gyda Chyfiawnder Troseddol, i gynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol, cemeg yn ddelfrydol. Gradd dda mewn TGAU mathemateg. Gweler y .

Côd UCAS

Llawn amser: F412
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser 6 mlynedd

BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig gyda Chyfiawnder Troseddol

Cynnwys y cwrs

Fe’ch cyflwynir i feysydd o dystiolaeth fforensig, cemeg fforensig a thechnegau ffotograffig yn gynnar yn y cwrs ynghyd â datblygu sgiliau labordy. Byddwch yn cwmpasu pynciau allweddol bioleg celloedd, cyfiawnder troseddol a’r gyfraith, dysgu am drosedd yn y gymdeithas sydd ohoni a dysgu am gyffuriau a thocsicoleg. Yn nes ymlaen yn y cwrs byddwch yn cael y cyfle i ddewis meysydd opsiynol o astudiaeth o ystod o bynciau megis camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a throsedd, a gwyddoniaeth a thechnoleg mewn cymdeithas.

Asesu

Defnyddir ystod eang o ddulliau asesu method; y rheiny sy’n cynnwys lleoliad trosedd a chwarae rôl yn y llys, cyflwyniadau llafar a phoster, traethodau ac adroddiadau labordy, ac arholiadau ysgrifenedig. Asesir pob modiwl gan amryw o ddulliau, gan alluogi myfyrwyr i arddangos eu llawn botensial. Bydd traethawd estynedig yn ffurfio un o rannau terfynol eich asesiad.

Gofynion mynediad

200 pwynt yn lefel A neu gyfwerth ar gyfer y BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig a’r BSc (Anrh) Gwyddoniaeth Fforensig gyda Chyfiawnder Troseddol, i gynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol, cemeg yn ddelfrydol. Gradd dda mewn TGAU mathemateg. Gweler y .

Côd UCAS

Llawn amser: F4M2
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd
Rhan amser 6 mlynedd

FdSc Gwyddoniaeth Fforensig

Cynnwys y cwrs

Fe’ch cyflwynir i feysydd astudio tystiolaeth fforensig a thechnegau ffotograffig. Cwmpasir bioleg celloedd, geneteg fforensig a bioleg fforensig gan y cwrs. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau labordy, dysgu sut i chwilio am ac adfer tystiolaeth a chynnal ymchwiliadau ymarferol mewn lleoliadau troseddu, a ennill profiad dysgu gwerthfawr seiliedig ar waith.  

Gofynion mynediad

100 pwynt yn lefel A neu gyfwerth ar gyfer yr FdSc Gwyddoniaeth Fforensig, i gynnwys o leiaf un pwnc gwyddonol, cemeg yn ddelfrydol. Gradd dda mewn TGAU mathemateg. Gweler y general entry requirements.

Côd UCAS

Llawn amser: F411
Rhan amser: cais uniongyrchol

Hyd

Llawn amser: 2 flynedd
Rhan amser 4 blynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk