Text begins here:
Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol
Coleg Glannau Dyfrdwy
Coleg Menai
Pam dewis Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol?
Mae Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol yn faes cyflym ac eithriadol o boblogaidd o beirianneg. Gyda’r tuedd byd-eang tuag at deithio cyflym a dylunio radical awyrennau masnachol deulawr, dyma’r amser mwyaf cyffrous a mwyaf diddorol erioed i astudio a chael cymhwyster yn y maes astudiaeth yma.
Ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn ogystal â’n hystafelloedd meddalwedd tra modern a’n cyfleusterau labordy wedi’u hofferu’n dda, mae gennym sied awyrennau ble cewch brofiad ymarferol o awyrennau jet a phiston. Nid yw dynwared yn cael ei anwybyddu chwaith ac mae gan ein hystafell dynwaredwr hedfan statig FLITE offer tra modern a chewch wneud defnydd o sawl pecyn dynwaredol.
Ar ein cyrsiau byddwch yn datblygu sgiliau uwch mewn cyfathrebu, dylunio a chreadigrwydd, gwaith tîm, rhifedd, sgiliau trefnu ac amrywiaeth o sgiliau gweithdy. Mae elfen ddylunio’r cyrsiau yn rhoi cyfle i chi edrych ar gysyniadau awyrennol ac awyrofodol newydd, radical.
Mae Peirianneg Mecanyddol a’i astudiaethau cysylltiedig yn ganolog i bron bob agwedd ar ddiwydiant ac yn rhychwantu gweithgynhyrchu a dylunio. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r cysyniad a’r broses o ddylunio peirianyddol ac yn cymhwyso gwybodaeth am beirianneg i greu a chynhyrchu cynlluniau fel unigolyn ac fel rhan o dîm. Mae eich astudiaethau yn siŵr o fod yn amrywiol, ac ar ôl graddio bydd yna gyfleoedd gyrfaol rhagorol ac amrywiaeth eang ar gael i chi.
Mae portffolio ein cwrs yn rhoi cyfle i chi symud ymlaen o radd sylfaen i radd anrhyedd. O ganlyniad, mae ganddo ystod eang o lefelau mynediad, sydd ar gael i ddarpar fyfyrwyr gydag amrywiaeth o wobrau academaidd a gwahanol gefndiroedd. Wrth edrych ar geisiadau, rydym yn ystyried profiad gwaith blaenorol er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y cwrs astudio sy’n fwyaf addas i chi.
Nodweddion arbennig
- Mae’r cyrsiau BEng (Anrh) Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol a BEng (Anrh) Gweithgynhyrchu Awyrennol a Mecanyddol wedi’u hachredu’n llawn gyda Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE). Mae ein graddau sylfaen wedi’u hachredu gydag IEng ac IMechE.
- Mae’r cyrsiau yn cynnwys lefel uchel o gynnwys ymarferol a dylunio, a gefnogir gan gyfleusterau tra modern rhagorol gan gynnwys dynwared hedfan ac awyrennau.
- Byddwch yn cael gwneud defnydd o becynnau dynwared hedfan fel FLITE, hyfforddwr cymhorthion cyfeirio RANT a Boeing 747.
- Bydd yna waith ymarferol ar awyrennau injan jet a phiston yn y sied awyrennau.
- Byddwch yn defnyddio meddalwedd dylunio blaengar fel Fluent, Pro Engineer ac Edge-Cam mewn ystafelloedd cyfrifiadurol tra modern.
- Ma’r cyfleusterau yn cynnwys cyfleuster Rapid Prototyping rhagfanylion diwydiant (dull dyddodi ymdoddedig) a meddalwedd systemau gweithgynhyrchu arbenigol.
- Byddwch yn cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau busnes.
- Mae cysylltiadau da gyda diwydiant yn golygu fod y cyrsiau wedi’u diweddaru ac yn berthnasol i anghenion cyflogwyr.
- Ar y graddau sylfaen mae yna bosibilrwydd o gael hyfforddiant galwedigaethol mewn cwmnïau fel Airbus UK, Light Aero, Garmin, MyTravel, Thomas Cook, Hawker Beechcraft a chwmnïau cyffelyb.
- Ar y campws mae yna gyfleusterau twnnel gwynt is-sonig ac uwchsonig a chell profi tyrbin nwy sy’n gweithredu’n llawn.
- Mae graddedigion sy’n cael gradd anrhydedd yn gymwys i ymuno a Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) a gwneud cais am statws ‘Aelod’ ar ôl cyfnod o waith diwydiannol priodol. Mae graddedigion hefyd yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer aelodaeth o’r Gymdeithas Awyrennol Frenhinol (RAeS).
- Ar y cyrsiau HND a HNC yr ydych yn gymwys i ymuno â’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg ar lefel Technegydd Peirianyddol. Gwahoddir aelodau arfaethedig am gyfweliad, a phennir ffioedd aelodaeth yn ôl gradd, statws a chyfrifoldebau.
- Gellir astudio’r HND yng Ngholeg Menai, Bangor yn ogystal.
- Gellir astudio’r HNC yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy, Cei Cona a Choleg Menai, Bangor yn ogystal.
Cyfleoedd gyrfaol
Ceir ystod eang o gyfleoedd gyrfaol ac mae’r prinder presennol o raddedigion Peirianneg cymwysedig yn y DU yn golygu fod yna gyfleoedd cyflogaeth yn dda. Gallech benderfynu dilyn llwybrau gyrfaol ym meysydd peirianneg awyrennol, mecanyddol a gweithgynhyrchu, ymgynghoriaeth, ymchwil a datblygu yn ogystal â Lluoedd Arfog EM. Mae myfyrwyr ar y cyrsiau hyn yn y gorffennol wedi llwyddo i gael gwaith fel personél peirianyddol gyda chyrff fel Airbus UK, Rolls Royce Engines, y Gwasanaeth Rheoli Traffig Awyr Cenedlaethol, British Airways – ymhlith nifer o rai eraill.
Mae’r HND mewn Technoleg Mecanyddol yn gymhwyster meincnod ar gyfer technegwyr ac yn cael ei gydnabod gan ddiwydiant ac yn ofynnol ar gyfer comisiwn yn y lluoedd arfog. Mae’r HNC mewn Technoleg Mecanyddol yn gymhwyster meincnod ar gyfer technegwyr a pheirianwyr ieuaf. Mae’n canolbwyntio ar anghenion diwydiannol ac yn gymhwyster trothwy a ddefnyddir gan y lluoedd arfog i gwrdd â gofynion addysgol ar gyfer statws Swyddog â Chomisiwn.
Gwybodaeth am y cwrs
BEng (Anrh) Peirianneg Awyrennol a Mecanyddol
Cynnwys y cwrs
Wrth graidd y cwrs yma mae yna elfen ddylunio sy’n rhoi cyfle i chi archwilio cysyniadau awyrennol ac awyrofodol newydd, radical. Mae Peirianneg Mecanyddol a’i astudiaethau cysylltiedig yn ganolog i bron bob agwedd ar ddiwydiant ac yn rhychwantu gweithgynhyrchu a dylunio. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r cysyniad a’r broses o ddylunio peirianyddol ac yn cymhwyso gwybodaeth beirianyddol i greu a chynhyrchu cynlluniau fel unigolyn ac fel rhan o dîm. Mae’r pynciau arbenigol yn cynnwys: erodynameg, mecaneg hylifol, strwythurau awyrennau, dylunio awyrennau, sefydolgrwydd awyrennau, prosesau gweithgynhyrchu, rheolaeth busnes a thermodynameg.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Gallai cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad, ynghyd ag arholiadau cyfyngedig i amser.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yma yw 200 pwynt UCAS neu gyfwerth.
Côd UCAS
Llawn amser: HH34 Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd Rhan amser: 5 mlynedd
BEng (Anrh) Gweithgynhyrchu Awyrennol a Mecanyddol
Cynnwys y cwrs
Amcan craidd y cwrs yma yw datblygu dealltwriaeth o gysyniadau dylunio peirianyddol; i hybu gallu myfyrwyr i ddeall y broses ddylunio a chymhwyso gwybodaeth beirianyddol i greu a chynhyrchu cynlluniau, fel unigolyn ac fel rhan o dîm. Mae rhan gyntaf y cwrs yn rhoi sylfaen i chi yn hanfodion gwyddoniaeth fecanyddol a thrydanol, mecaneg solidau a pheiriannau, peirianneg a chyfansoddion ynghyd â dylunio â chymorth cyfrifiadurol a chymwysiadau cyfrifiadurol. Y mae hefyd yn eich cyflwyno i’r sgiliau proffesiynol sydd arnoch eu hangen i gael mantais gystadleuol wrth weithio yn y maes yma. Mae’r ail lefel yn cyflwyno astudiaeth fwy datblygedig o erodynameg, dynameg peirianneg, cynllunio a gweithgynhyrchu seiliedig ar gyfrifiaduron. Ochr yn ochr â hyn byddwch yn astudio sgiliau busnes hanfodol sy’n gysylltiedig â sicrhau ansawdd, iechyd a diogelwch a mwy.
Mae’r lefel olaf yn edrych ymhellach ar ddefnyddiau, ynghyd ag offer dadansoddol cyfrifiadurol, datblygu technolegau, astudiaethau cymhlyg a mwy. Mae’r pynciau arbenigol yn cynnwys systemau gweithgynhyrchu, economeg a rheoli prosiect. Byddwch yn ymgymryd â phrosiect yn eich blwyddyn olaf, yn seiliedig ar faes o ddiddordeb perthnasol i chi a’ch astudiaethau unigol.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Gallai cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad. Mae arholiadau hefyd yn ffurfio rhan o’ch asesiad.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yma yw 200 pwynt UCAS yn lefel A2 neu uwch, neu gyfwerth. Gweler y .
Côd UCAS
Llawn amser: HH4H Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd Rhan amser: 5 mlynedd
FdEng Peirianneg Awyrennol
Cynnwys y cwrs
Bydd y radd sylfaen yma yn lansio eich archwiliad o gysyniadau awyrennol ac awyrofodol newydd. Bydd y cwrs yma yn datblygu sgiliau sydd yn uniongyrchol berthnasol i’ch gyrfa, ac fe allai ffurfio’r sylfaen ar gyfer astudiaeth bellach. Yn y lefel gyntaf byddwch yn canolbwyntio ar hanfodion dylunio a gweithgynhyrchu, ynghyd â mathemateg gymhwysol a sgiliau rheoli busnes. Yn yr ail lefel mae dysgu yn canolbwyntio ar wyddoniaeth fecanyddol mwy datblygedig, dylunio peirianyddol a CAD/CAM ynghyd â datblygu sgiliau rheoli prosiect hanfodol er mwyn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y gweithle. Ymgymerir â phrosiect yn ogystal, ar bwnc sydd yn uniongyrchol berthnasol i’ch diddordebau a’ch anghenion gyrfaol.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Gallai cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad. Mae arholiadau hefyd yn ffurfio rhan o’ch asesiad.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y radd sylfaen yw 100 pwynt, neu gyfwerth. Gweler y .
Côd UCAS
Llawn amser: H410
Hyd
Llawn amser: 2 flynedd
FdEng Peirianneg Awyrennol (Logisteg)
Cynnwys y cwrs
Mae’r llwybr Logisteg yn eich galluogi i astudio hanfodion dylunio awryennol a thechnolegau gweithgynhyrchu tra’n canolbwyntio ar yr egwyddorion a’r sgiliau rheolaeth busnes a pheirianyddol y mae logisteg yn galw amdanynt. Mae’r pynciau arbenigol a astudir yn y lefel gyntaf yn cynnwys Rheolaeth Cadwyn Gyflenwi ac Egwyddorion Cynllunio a Threfnu. Yn yr ail lefel: Rheolaeth Cefnogaeth Logistaidd a Phrosesau Trin Defnyddiau. Ymgymerir â phrosiect yn ogystal, yn seiliedig ar eich diddordebau a’ch anghenion unigol.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Gallai cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad. Gallai arholiadau ffurfio rhan o’ch asesiad yn ogystal.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y radd sylfaen yw 100 pwynt, neu gyfwerth. Gweler y .
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd
FdEng Peirianneg Awryennol (Gweithgynhyrchu)
Cynnwys y cwrs
Mae yna nifer o raddau sylfaen ar gael ym maes peirianneg awyrennol. Wrth edrych ar geisiadau rydym yn ystyried eich profiad gwaith blaenorol a’ch uchelgeisiau gyrfaol ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y cwrs astudio sy’n fwyaf addas i chi. Mae’r llwybr Gweithgynhyrchu yn cynnig mwy o ffocws ar egwyddorion a sgiliau rheolaeth busnes a rheolaeth beirianyddol. Ymgymerir â phrosiect, yn seiliedig ar bwnc sydd yn uniongyrchol berthnasol i’ch diddordebau a’ch anghenion.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Bydd cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad. Gallai arholiadau ffurfio rhan o’ch asesiad yn ogystal.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y radd sylfaen yw 100 pwynt, neu gyfwerth. Gweler y .
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd
FdEng Cynnal a Chadw Awyrennau
Cynnwys y cwrs
Mae’r radd sylfaen yma wedi cael ei datblygu ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes yn gweithio ym maes Peirianneg Cynnal a Chadw Awyrennau fel prentisiaid neu hyfforddedigion. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio er mwyn i chi ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy o gyfathrebu (llafar, ysgrifenedig a graffigol), dylunio a chreadigrwydd wrth datrys problemau, sgiliau ar gyfer gweithio mewn tîm a sgiliau gweithdy sy’n benodol i’r diwydiant awyrennau.
Bydd eich gwaith academaidd yn cael ei ategu gan waith ymarferol yn y gweithdai helaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr a Choleg Glannau Dyfrdwy. Bydd astudiaethau academaidd yn y lefel gyntaf o astudiaethau yn edrych ar hanfodion defnyddiau peirianyddol, cynnal a chadw a systemau awyrennau ynghyd â sgiliau mewn ffiseg a mathemateg gymhwysol ar gyfer peirianwyr. Bydd eich sgiliau rheolaeth beirianyddol yn cael eu datblygu trwy raglen o ddysg seiliedig ar waith. Ymgymerir â dysg seiliedig ar waith o fewn cwmnïau sy’n gysylltiedig â’r Brifysgol, gan gynnwys MyTravel, Thomas Cook a Hawker Beechcraft. Yn yr ail lefel byddwch yn cwmpasu pynciau megis Deddfwriaeth y Diwydiant Awyrennau a Ffactorau Dynol, Systemau Afioneg, Peiriannau Tyrbin Nwy a Gwyddoniaeth Tyrbin Nwy. Bydd gwaith ymarferol yn cynnwys gweithio ar awyrennau ag injan jet a phiston, dynwaredwr hedfan mudiant llawn Prifysgol Glyndŵr a phecynnau dynwared systemau megis cymhorthion cyfeirio FLITE a RANT.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Bydd cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad. Gallai arholiadau ffurfio rhan o’ch asesad yn ogystal.
Gofynion mynediad
100 pwynt UCAS yn lefel A2 neu gyfwerth. Dylai ymgeiswyr fod wedi cwblhau Tystysgrif/Diploma Cenedlaethol. Cysylltwch â ni i drafod eich profiad neu gymwysterau cyfatebol. Gweler y .
Darperir y radd sylfaen yma mewn cydweithrediad â Choleg Glannau Dyfrdwy. Cyflenwir y cwrs ar sail 50/50 rhwng Prifysgol Glyndŵr a Choleg Glannau Dyfrdwy.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd
HND Technoleg Mecanyddol
Cynnwys y cwrs
Mae’r HND mewn Technoleg Mecanyddol yn gymhwyster meincnod ar gyfer technegwyr ac yn cael ei werthfawrogi a’i gydnabod gan ddiwydiant ac yn ofynnol ar gyfer comisiwn yn y lluoedd arfog.
Ceir opsiynau ym mhob blwyddyn o astudio i ategu astudio hanfodion gwyddoniaeth a thechnoleg mecanyddol a thechnegau rheoli a busnes. Mae’r opsiynau yn y lefel gyntaf yn cynnwys: Cymwysiadau Cyfrifiadurol Peirianyddol, Rheolyddion Rhesymeg Rhaglenadwy, Mecaneg Hylifol a mwy. Yn yr ail lefel, bydd yr opsiynau astudio yn cynnwys: CAD/CAM, Technoleg Robot, Sicrhau a Rheoli Ansawdd a Gweithgynhyrchu â Chymorth Cyfrifiadurol. Ymgymerir â phrosiectau unigol a grŵp.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Bydd cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad, ynghyd ag arholiadau cyfyngedig i amser.
Gofynion mynediad
Ar gyfer yr HND a’r HNC, y gofynion yw Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol Edexcel/BTEC, neu fel arall un lefel A mewn Mathemateg neu bwnc gwyddonol perthnasol. Gweler y .
Côd UCAS
Llawn amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 2 flynedd
HNC Technoleg Awyrennol
Cynnwys y cwrs
Mae’r cwrs yma yn cynnig y cyfle i astudio Technoleg Awyrennol ar lefel ragarweiniol: datblygu eich gwybodaeth am ddylunio peirianyddol, defnyddiau ac egwyddorion a’ch sgiliau rheolaeth busnes a mathemateg. Mae modiwlau astudio hefyd yn cynnwys Uniondeb Strwythurol Awyrennau a Sgiliau Cynllunio a Threfnu.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Bydd cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad, ynghyd ag arholiadau cyfyngedig i amser.
Gofynion mynediad
Ar gyfer yr HND a’r HNC, y gofynion yw Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol Edexcel/BTEC, neu fel arall un lefel A mewn Mathemateg neu bwnc gwyddonol perthnasol.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd
HNC Technoleg Mecanyddol
Cynnwys y cwrs
Mae’r HNC mewn Technoleg Mecanyddol yn gymhwyster mecanyddol ar gyfer technegwyr a pheirianwyr iau. Mae’n canolbwyntio ar anghenion diwydiannol ac yn gymhwyster trothwy a ddefnyddir gan y lluoedd arfog i gwrdd ar gofynion addysgol ar gyfer statws Swyddog â Chomisiwn.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau ac astudiaethau achos gwaith labordy a CAD. Bydd cyfuniad o’r gwaith yma ffurfio rhan o’ch asesiad, ynghyd ag arholiadau cyfyngedig i amser.
Gofynion mynediad
Ar gyfer yr HND a’r HNC, y gofynion yw Tystysgrif neu Ddiploma Cenedlaethol Edexcel/BTEC, neu fel arall un lefel A mewn Mathemateg neu bwnc gwyddonol perthnasol.
Côd UCAS
Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Rhan amser: 2 flynedd
|