Text begins here:
Peirianneg Darlledu Sain
Pam dewis Peirianneg Darlledu Sain?
A ydych wedi rhoi eich bryd ar fod yn beiriannydd sain? Neu a oes gennych ddiddordeb mewn gweithio mewn peirianneg sy’n gysylltiedig â theledu neu dechnolegau fideo? Os yw’r atebion yn rhai cadarnhaol, yna mae’r cwrs yma ar eich cyfer chi.
Wedi’i chynllunio a’i datblygu mewn cydweithrediad â’r BBC, mae’r radd yma yn ymateb yn uniongyrchol i anghenion diwydiant. Gyda phrinder cenedlaethol o raddedigion peirianneg electronig cymwysedig, mae ein cyrsiau yn ymroddedig i ddatblygu graddedigion o galibr uchel gyda’r sgiliau gofynnol yn y sectorau darlledu sain.
Ym Mhrifysgol Glyndŵr gallwch gael mantais wirioneddol gystadleuol trwy ddatblygu sgiliau a phrofiad ymarferol. Rydym yn eich darparu gyda chyfleusterau gan gynnwys teledu, labordai acwstig a fideo ac ystafell Prosesu Signal Digidol pwrpasol tra modern.
Ochr yn ochr â phrofiad ymarferol, bydd astudiaethau damcaniaethol a sgiliau craidd megis rheolaeth busnes, technoleg gwybodaeth, gwaith tîm, dylunio a rheoli prosiect yn ffurfio asgwrn cefn eich astudiaethau.
Nodweddion arbennig
- Mae gan y staff academaidd sy’n cyflenwi’r cwrs brofiad diwydiannol uniongyrchol.
- Mae yna gymhareb ragorol o staff i fyfyrwyr.
- Byddwch yn gallu defnyddio cyfleusterau teledu, fideo a DVD Prifysgol Glyndŵr mewn labordai modern a’r feddalwedd gyfrifiadurol ddiweddaraf.
- Byddwch yn gymwys i ymuno â’r Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) – Sefydliad y Peirianwyr Trydanol (IEE) gynt – fel aelod myfyriwr.
Cyfleoedd gyrfaol
Bydd astudio’r cwrs yma yn agor drysau i yrfaoedd fel technegwyr a pheirianwyr sy’n gweithio mewn diwydiannau radio neu deledu uwch dechnolegol cenedlethol neu fyd-eang. Os oes gennych ddiddordeb mewn astudio technolegau newydd, mae’r cyfleoedd yn ymestyn i yrfaoedd seiliedig ar ymchwil.
Gwybodaeth am y cwrs
BEng Peirianneg Sain a Darlledu
Cynnwys y cwrs
Ym mlwyddyn gyntaf y cwrs byddwch yn astudio ystod eang o bynciau yn cwmpasu egwyddorion, cynllun ac ymarfer. Mae pynciau astudio arbenigol yn cynnwys technegau recordio, electro-acwsteg a systemau ac egwyddorion clywedol. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn datblygu mwy ar eich sgiliau a’ch gwybodaeth trwy bynciau craidd ac arbenigol gan gynnwys: electroneg teledu, egwyddorion recordio fideo analog a digidol, systemau radio, systemau ac egwyddorion opteg ffibrau, systemau golau a sain. Yn eich blwyddyn olaf bydd eich astudiaethau yn dod i ben gyda phrosiect seiliedig ar ymchwil – gan ddod â’ch astudiaethau at ei gilydd a’ch galluogi chi i ganolbwyntio ar faes penodol o ddiddordeb i chi. Yn ogystal byddwch yn astudio systemau recordio digidol, prosesu signal digidol, darlledu lloeren a microdon a phynciau craidd pellach.
Asesu
Ni cheir arholiadau yn y flwyddyn gyntaf, ond yn hytrach fe’i hasesir gan waith cwrs: ymarferion ymarferol, portffolios ac aseiniadau y byddwch yn eu cwblhau trwy gydol y flwyddyn. Mae asesu yn eich blwyddyn olaf yn canolbwyntio ar eich prif brosiect a fydd yn cynnwys cofnod cynnydd, arddangosiadau ymarferol, a chyflwyniadau.
Gofynion mynediad
Fel arfer gofynnir am leiafswm o 200 pwynt UCAS ar gyfer mynediad i’r radd anrhydedd. Derbynnir Tystysgrifau Cenedlaethol neu gyrsiau Mynediad Addysg Uwch ar gyfer mynediad hefyd, yn dibynnu ar y pwnc a gymerir a’r safon a gyflawnir. Fe allech gael eich derbyn heb gymwysterau ffurfiol pe gallech ddangos fod gennych wybodaeth a phrofiad addas. Gweler y .
Côd UCAS
Llawn amser: H688
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd
FdEng Peirianneg Sain a Darlledu
Cynnwys y cwrs
Mae’r radd sylfaen yn eich darparu gyda chefndir cadarn i’r maes yma. Mae’r flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar sgiliau craidd mewn mathemateg gymhwysol, electroneg a thechnoleg acwstig, cymwysiadau cyfrifiadurol peirianyddol yn ogystal â modiwlau sydd yn uniongyrchol berthnasol i’r gweithle megis hyfforddiant diwydiannol, rheolaeth busnes ac iechyd a diogelwch. Yn yr ail flwyddyn byddwch yn dysgu ystod eang o sgiliau ac yn datblygu profiad o wyddoniaeth glywedol, technoleg sain top desg a dylunio peirianyddol i enwi dim ond rhai pynciau allweddol. Cewch gyfle i astudio prosiect sy’n gysylltiedig â’ch meysydd o ddiddordeb a’ch anghenion eich hun.
Asesu
Asesir y radd sylfaen i gyd gan waith cwrs: ymarferion ymarferol, portffolios ac aseiniadau a gwblheir yn ystod eich astudiaeth, a’ch prosiect yn yr Ail Flwyddyn.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y radd sylfaen yw 100 pwynt UCAS neu uwch neu hefyd fe dderbynnir cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch neu Dystysgrifau Cenedlaethol ar gyfer mynediad, yn dibynnu ar y pwnc a ddewisir a’r safon a gyflawnwyd. Fe allech gael eich derbyn heb gymwysterau ffurfiol petaech yn gallu dangos fod gennych wybodaeth a phrofiad addas. Gweler y .
Côd UCAS
Llawn amser: H642
Hyd
Llawn amser: 2 flynedd
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|