Rheolaeth Garddwriaeth Organig
Pam dewis Rheolaeth Garddwriaeth Organig?
Mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i ddarparu modd ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn rheoli adnoddau tirol ein gwlad, gyda phwyslais arbennig ar y sector garddwriaeth organig sydd mor bwysig ar gyfer datblygiad cynhyrchu cynaliadwy a thwf cynnyrch naturiol yn y dyfodol.
Heb ofyn am unrhyw wybodaeth flaenorol, mae’r rhaglen yn archwilio dulliau rheoli a marchnata, y wyddoniaeth tu ôl i dwf a’r defnydd o blanhigion a rheoli timau sy’n tyfu a gwerthu’r cynnyrch.
Nodweddion arbennig
- Mae’r tîm o staff arbenigol profiadol yn cynnwys ymarferwyr gyda hanes gyrfa arobryn da.
- Cynhwysir profiad ymarferol o fewn y modiwlau wedi’u seilio ar y campws gwledig yn Llaneurgain, Sir Fflint.
- Mae gan fyfyrwyr fynediad i gampws Wrecsam a’r cyfleusterau dysgu cyfoes ar y ddau safle.
- Mae’r amgylchedd a chynaliadwyedd yn elfennau cryf o fewn amcanion y rhaglen ac yn uniongyrchol gysylltiedig â’r gofynion sgiliau sector a phroffesiynol.
- Bydd myfyrwyr yn profi ystod eang o ddisgyblaethau tirol trwy gydol eu hastudiaethau trwy rannu modiwlau gyda chyrsiau tirol eraill ac, ar ôl eu cwblhau, gallant symud ymlaen i wneud rhaglen radd atodol.
Gweler mwy o wybodaeth am
Cyfleoedd arbennig
Mae yna ystod eang o yrfaoedd ar gael o fewn y sector pwysig yma sy’n darparu cyfran sylweddol o anghenion y genedl. I ddechrau bydd ar raddedigion angen profiad gwaith perthnasol ond yna dylent allu ymgymryd â’r swyddi rheoli blaenllaw y bydd y cwrs wedi eu paratoi ar eu cyfer.
Mae’r galw am bobl o’r fath yn tyfu ledled Ewrop ac yn llawer o wledydd y Gymanwlad.


