Rheolaeth Tirlun
Pam dewis Rheolaeth Tirlun?
Mae’r cwrs yma wedi’i gynllunio i ddarparu modd ar gyfer y rheiny sydd â diddordeb mewn gyrfa mewn rheoli adnoddau tirol ein gwlad, gyda phwyslais arbennig ar reolaeth yn y sector tirlun sy’n darparu ar gyfer llawer o’r tirlun rheoledig sy’n gwneud cefn gwlad, parciau a gerddi, ardaloedd cymunedol, adeiladau treftadaeth a thai modern, ardaloedd manwerthu a masnachol yn llefydd deniadol a dymunol yr ydym wedi dod i arfer â hwy. Mae yna gysylltiad agos hefyd rhwng datblygiad adeiladau a chartrefi cynaliadwy yn y dyfodol â’r maes gyrfaol cyffrous yma.
Heb ofyn am unrhyw wybodaeth flaenorol, mae’r rhaglen yn archwilio rheolaeth a marchnata gwasanaethau tirlunio, y wyddoniaeth tu ôl i dwf a’r defnydd o blanhigion a rheoli timau sy’n ymgymryd â, cynnal a chadw ac adnewyddu gwaith tirlunio.
Nodweddion arbennig
- Mae’r tîm o staff arbenigol profiadol yn cynnwys ymarferwyr gyda hanes gyrfa arobryn da.
- Cynhwysir profiad ymarferol o fewn y modiwlau wedi’u seilio ar y campws gwledig yn Llaneurgain, Sir Fflint.
- Mae gan fyfyrwyr fynediad i gampws Wrecsam a’r cyfleusterau dysgu cyfoes ar y ddau safle.
- Mae’r amgylchedd a chynaliadwyedd yn elfennau cryf o fewn amcanion y rhaglen ac yn uniongyrchol gysylltiedig â’r gofynion sgiliau sector a phroffesiynol.
- Bydd myfyrwyr yn profi ystod eang o ddisgyblaethau tirol trwy gydol eu hastudiaethau trwy rannu modiwlau gyda chyrsiau tirol eraill ac, ar ôl eu cwblhau, gallant symud ymlaen i wneud rhaglen radd atodol.
Gweler mwy o wybodaeth am
Cyfleoedd arbennig
Mae yna ystod eang o yrfaoedd ar gael o fewn y sector pwysig yma sy’n darparu cyfran sylweddol o anghenion y genedl. I ddechrau bydd ar raddedigion angen profiad gwaith perthnasol ond yna dylent allu ymgymryd â’r swyddi rheoli blaenllaw y bydd y cwrs wedi eu paratoi ar eu cyfer.
Mae’r galw am bobl o’r fath yn tyfu ledled Ewrop ac yn llawer o wledydd y Gymanwlad.


