Technoleg Dylunio Pensaernïol
BSc (Anrh) Technoleg Dylunio Pensaernïol
Pam dewis Technoleg Dylunio Pensaernïol?
Mae hwn yn gwrs gradd amrywiol, sy’n cynnwys amrywiaeth o agweddau ar ddylunio a thechnoleg pensaernïol gyda dylunio yn bendant wrth ei graidd. Byddwch hefyd yn gallu datblygu eich sgiliau allweddol o gyflwyno, dadansoddi, arloesi technegol ac arwain tîm, ynghyd â sgiliau mewn cymwysiadau TG arbenigol megis CAD. Yn sgil hyn, byddwch yn gaffaeliad i gyflogwyr arfaethedig a chyda’r diwydiant adeiladaeth yn un o sectorau mwyaf yr economi, mae’r ddisgyblaeth yn cynnig ystod o gyfleoedd galwedigaethol ar lefelau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
Nodweddion arbennig
- Amgylchedd dysgu cyfeillgar a chefnogol.
- Cofnod rhagorol o gyflogadwyedd.
- Mae’r cwrs wedi’i achredu’n llawn gan y Sefydliad Adeiladu Siartedig (cyfadran Pensaernïaeth a Thirfesur) ac mae’r Gymdeithas Gwerthwyr Tai yn darparu mynediad i gymwysterau trosglwyddadwy Ewropeaidd a Statws Siartredig yn y DU.
- Mae’r cwrs yn cynnwys ymroddiad i gynaliadwyedd ym mhob agwedd ar y broses ddylunio ac adeiladaeth a’r cyfle i archwilio dulliau modern o adeiladu a datblygu cynaliadwy.
- Mae grwpiau tiwtorial bychan eu maint yn golygu fod myfyrwyr yn cael lefel uchel o gefnogaeth a sylw gan diwtoriaid gyda dilyniant hyblyg.
- Mynediad uwch i’r rheiny gyda chymwysterau proffesiynol neu academaidd perthnasol.
- Ceir pwyslais ar dasgau ymarferol wrth asesu gyda dilyniant hyblyg, addasu ar gyfer myfyrwyr rhan amser a phrofiad gwaith.
- Cyfle i ddatblygu sgiliau a gwerthfawrogiad dylunio a thechnolegol, o fewn amgylchedd cyfeillgar, sy’n gymwys mewn ystod eang o feysydd cyflogaeth.
- Byddwch yn gymwys am aelodaeth myfyrwyr o’r Sefydliad Technolegwyr Pensaernïol Siartredig (CIAT). Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn gymwys am Aelodaeth Gyswllt o CIAT.
Cyfleoedd gyrfaol
Daw’r rhan fwyaf o’n graddedigion o hyd i waith yn y diwydiant adeiladaeth a datblygu sy’n cynrychioli un o sectorau mwyaf yr economi. Mae cyrchfannau graddedigion yn nodweddiadol yn cynnwys arferion pensaernïol, cyrff contractio adeiladu gyda gwasanaethau dylunio mewnol, adrannau datblygu ac eiddo awdurdodau lleol, ac adrannau rheoli cyfleusterau ystadau presennol.


