Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Technolegau Ceir Rasio

Pam dewis Technolegau Ceir Rasio?

Mae arbenigedd a chyfleusterau cynyddol Prifysgol Glyndŵr yn y maes yma wedi arwain at y cyflwyniad diweddar i’r gystadleuaeth Fformiwla Myfyrwyr i galon ein cyrsiau. Gyda’r gystadleuaeth yma mae pob myfyriwr/wraig, myfyrwyr yr ail a’r d-rydedd yn arbennig, yn cael  cyfle i ddylunio ac adeiladu car rasio i gystadlu yn erbyn cerbydau o brifysgolion eraill yn y DU ac yn rhyngwladol. I gydfynd â’r profiad yma, mae ein cyrsiau wedi’u cynllunio i’ch helpu i ddatblygu amryw o sgiliau gan gynnwys rheoli prosiect, gweithio mewn tîm ac arwain tîm, rheolaeth busnes, technoleg gwybodaeth a sicrhau ansawdd.

Rhoddir pwyslais penodol ar geir rasio cyflym gan gynnwys peirianneg, electroneg a dylunio; darparu ar gyfer amryw o ddiddordebau a rolau gyrfaol. Mae’r cyrsiau hyn yn edrych ar beirianneg dylunio a datblygu ceir rasio modern yn llawn. Byddwch yn cael dealltwriaeth lawn o strwythurau, systemau, deinameg a chynllun car, yn ogystal â chael cyfle i ddatblygu sgiliau busnes. Mae ceir yr unfed ganrif ar hugain yn dibynnu fwyfwy ar electroneg o fewn eu cynllun. Rydym yn mynd i’r afael â’r galw newydd yn sgil hynny am raddedigion sy’n meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau yma trwy fodiwlau sy’n cwmpasu pob agwedd ac yn cyfannu ei gilydd ei gilydd ac anghenion diwydiant.

Mae Tîm Rasio Prifysgol Glyndwr yn dîm sefydledig ac yn rhan annatod o’r cyrsiau i gyd. Mae yna Westfield Megabird ar gael fel llwyfan datblygu prosiect, car lôn diwrnod trac ac un o’r ceir lôn sy’n ysbarduno gyflymaf yn y byd! Erbyn hyn mae’r tîm yn rhedeg ystod o gerbydau rasio cyflym gan gynnwys Van Dieman RF79 Formula Ford 1600s, y Westfield Megabird a cheir Fformiwla Myfyrwyr. Mae yna ystod o gerbydau eraill hefyd, gan gynnwys cerbyd heluol arobryn a cheir rasio disgyrchiant, sy’n cydfynd â’r ceir yma.

Mae’r tîm Formula Ford yn cymryd rhan ym Mhencampwriaeth Formula Ford Gogledd Orllewin  Opal Telecom. Yn nhîm y pydew mae criw o fyfyrwyr ac mae’r tîm wedi ennill eu Dosbarth Pencampwriaeth bob blwyddyn ers 2003/04. Mae dyddiau rasio yn Oulton Park ac Ynys Môn yn ddigwyddiadau cyffrous, sy’n cynnig profiad uniongyrchol i chi o redeg tîm rasio cystadleuol.

Nodweddion arbennig

  • Mae gan Brifysgol Glyndŵr gysylltiadau o fewn y sector modurol gan gynnwys cwmnïau fel Jaguar, Toyota, System ST, a Thrac Rasio Môn.
  • Ar y cwrs Dylunio a Rheoli Chwaraeon Modur byddwch hefyd yn cael gwneud defnydd o gyfleusterau dylunio amlgyfryngol mewn cydweithrediad ag Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru gan weithio gyda meddalwedd pecyn modelu Lightwave ac Adobe.
  • Mae yna gyfleusterau rhagorol gan gynnwys modelau corff cadarn ProEngineer a swît FEA, swît Abaqus FEA, AutoCad, meddalwedd Fluent CFD, labordai electroneg, cell profi peiriannau a chyfleusterau twnnel gwynt. Byddwch hefyd yn defnyddio pecynnau meddalwedd safon diwydiant megis: MATLAB a Simulink, Texas Instruments Code Composer Studio, Analog Devices VisualDSP, Altium Designer, Xilinx ISE, Altera MAX+PLUS II, Microchip MPLAB, a Vector CANanalyser ac yn cael y cyfle i ddatblygu modelau trwy ddefnyddio offer a meddalwedd Rapid Prototyping yn ein gweithdy prosiect.
  • Byddwch yn gallu ymgymryd â gwaith electroneg modurol ymarferol ar gar Jaguar X-type o fewn ein gweithdy cerbyd modurol arbenigol wedi’i offeru’n dda.
  • Cefnogir gwaith academaidd gan waith ymarferol yn ein gweithdai a’n labordai helaeth. Mae dosbarthiadau bychain yn caniatáu cyngor a chefnogaeth cryf mewn tiwtorialau ac wrth ymgymryd ag arbrofion labordy.
  • Byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn y Fformiwla Myfyrwyr a chystadlu gyda thimau prifysgol eraill o bob cwr o’r byd.
  • Byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan yn Nhîm Rasio Prifysgol Glyndŵr gan gynnwys tîm rasio  Formula Ford 1600 sy’n eich galluogi i gael profiad o weithio mewn tîm rasio cystadleuol.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae’r sector modurol yn cynnig ystod o gyfleoedd gyrfaol cyffrous yn ymwneud â gwneuthurwyr ceir a’u rhwydwaith cyflenwi, ymchwil a datblygu modurol, ymgynghoriaeth, rheolaeth beirianyddol, dylunio modurol a’r diwydiant chwaraeon modurol.

Gwybodaeth am y cwrs

BEng (Anrh) Technoleg Electronig Modurol

Cynnwys y cwrs

Oherwydd prinder cenedlaethol o beirianwyr electronig cymwysedig yn y diwydiant modurol, bydd y cymhwyster yma mewn Technoleg Electronig Modurol o Brifysgol Glyndŵr yn denu sylw cyflogwyr ar unwaith. Mae’r wybodaeth a’r sgiliau eang y cewch yn sgil y cwrs yn eich galluogi i gyfrannu at gynllun systemau a phrosesau electronig modurol er mwyn cwrdd â gofynion yn y dyfodol o fewn marchnadoedd yn y DU a ledled y byd. Mae gan y cwrs yma bwyslais gref ar electroneg tra’n cynnal elfennau o gynllun a pheirianneg ceri rasio. Ochr yn ochr â’r cwrs Electroneg Ceir Rasio, mae’r cwrs yma wedi cael ei ddyfeisio a’i ddatblygu gyda chefnogaeth Jaguar Cars Ltd. a DaimlerChrysler. Amcan y cwrs yma yw cwrdd âr angen cynyddol am raddedigion electroneg medrus a gwybodus yn y diwydiant modurol. Gan adeiladau ar astudiaethau rhagarweiniol cadarn yn y lefel gyntaf byddwch yn astudio pynciau arbenigol yn lefelau dau a thri, er enghraiff: Systemau Adloniant ac Amlgyfryngol, Systemau Microbrosesydd, Deinameg Ceir Rasio a Pheirianneg Siasi a Pheiriannau Rasio a Powertrain. Ymgymerir â phrosiect yn y drydedd flwyddyn, gan roi cyfle i chi ymchwilio i faes arbennig o ddiddordeb.

Asesu

Yn ystod eich cwrs byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau gan gynnwys aseiniadau ac arbrofion labordy. Bydd y rhain yn ffurfio rhan o’ch asesiad, ynghyd ag arholiadau cyfyngedig i amser. 

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydeddus yma yw 200 pwynt UCAS neu gyfwerth. Gweler y .

Côd UCAS

Llawn amser: H334

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

BEng (Anrh) Electroneg a Thechnoleg Ceir Rasio

Cynnwys y cwrs

Mae gan y radd hon bwyslais electroneg gref tra’n cynnal elfennau o gynllun a pheirianneg ceir rasio. Wedi’i ddyfeisio a’i ddatblygu gyda chefnogaeth Jaguar Cars Ltd. a DaimlerChrysler, amcan y cwrs yma yw cwrdd â’r angen cynyddol am raddedigion electroneg medrus a gwybodus yn y diwydiant modurol. Mae’n bleser gennym gynnig y cwrs arbenigol yma, sy’n cynnwys pynciau megis: Rhwydweithiau Cerbydau, Deinameg Ceir Rasio, Systemau Adloniant ac Amlgyfryngol a Thechnolegau Electrinig. Ymgymerir â phrosiect yn y drydedd flwyddyn, gan roi cyfle i chi ymchwilio i faes arbennig o ddiddordeb.   

Asesu

Yn ystod eich cwrs byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau gan gynnwys aseiniadau ac arbrofion labordy. Bydd y rhain yn ffurfio rhan o’ch asesiad, ynghyd ag arholiadau cyfyngedig i amser. 

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydeddus yw 200 pwynt UCAS neu gyfwerth. Gweler y .

Côd UCAS

Llawn amser: H335

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

BEng (Anrh) Technoleg Ceir Rasio

Cynnwys y cwrs

Wrth galon portffolio Prifysgol Glyndŵr, mae’r cwrs yma yn edrych ar rychwant llawn cynllun a datblygiad y car rasio cyfoes. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth lawn o strwythurau, electroneg, deinameg a chynllun y car ynghyd â sgiliau busnes allweddol. Mae’r pynciau arbenigol yn cynnwys: Strwythurau Ceir Rasio, Deinameg Ceir Rasio, Electroneg Chwaraeon Modurol a Pheirianneg Siasi. Cewch gyfle yn y drydedd flwyddyn i ymgymryd â phrosiect sy’n canolbwyntio ar eich maes chi o ddiddordeb neu anghenion gyrfaol. 

Asesu

Yn ystod eich cwrs byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau gan gynnwys aseiniadau ac arbrofion labordy. Bydd y rhain yn ffurfio rhan o’ch asesiad, ynghyd ag arholiadau cyfyngedig i amser. 

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd yma yw 200 pwynt UCAS neu gyfwerth. Gweler y .

Côd UCAS

Llawn amser: H431

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

BSc (Anrh) Dylunio a Rheoli Chwaraeon Modur

Cynnwys y cwrs

Os oes gennych gefndir llai gwyddonol a diddordeb mewn chwaraeon moduro, neu mewn cynllun ceir rasio, yna fe gynlluniwyd y cwrs yma ar eich cyfer chi. Mae astudiaethau ar y cwrs yma yn cynnwys cynllun esthetig a pheirianyddol ceir ffordd a thrac cyflym, gan ganolbwyntio ar sgiliau rheoli busnes a phrosiect. Gan hynny mae yna lai o bwyslais ar sgiliau peirianneg traddodiadol nag ar gyrsiau technolegau ceir rasio amgen. Mae’r pynciau yn cynnwys: Dylunio a Drafftio â Chymorth Cyfrifiadurol, Rhoi Cynllun ar Waith, Strwythurau a Defnyddiau Ceir Rasio, Busnes Chwaraeon Moduro – i enwi dim ond rhai.

Asesu

Yn ystod eich cwrs byddwch yn ymgymryd â phrofion cyfnodol, aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, coflyfrau, cyflwyniadau gan gynnwys aseiniadau ac arbrofion labordy. Bydd y rhain yn ffurfio rhan o’ch asesiad, ynghyd ag arholiadau cyfyngedig i amser. 

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yma yw 200 pwynt UCAS neu uwch, neu gyfwerth. Gweler y .

Côd UCAS

Llawn amser: H333

Hyd

Llawn amser: 3 blynedd

FdEng Technoleg Ceir Rasio

Cynnwys y cwrs

Os oes gennycn ddiddorddeb mewn astudio’r amrediad llawn o beirianneg y car rasio cyfoes – cynllun a datblygiad – gallai’r cwrs yma fod yn fan cychwyn delfrydol i chi. Mae’r cwrs yma yn rhoi cyflwyniad i dechnolegau ceir rasio i chi ac yn anelu i greu dealltwriaeth gadarn o strwythurau, electroneg, deinameg a chynllun y car ynghyd â sgiliau busnes allweddol. Mae’r flwyddyn gyntaf yn canolbwyntio ar hanfodion bras er mwyn ysgwyddo eich astudiaethau gyda modiwlau yn cynnwys Gwyddoniaeth Fecanyddol, Thermohylifrau, Electroneg a Systemau Chwaraeon Moduro, Cymwysiadau Cyfrifiadurol Busnes a Pheirianneg. Mae’r ail flwyddyn yn ychwanegu at eich astudiaethau, gyda phynciau arbenigol yn cynnwys CAD/CAM, Sicrhau Ansawdd a Dylunio Peirianyddol (Cynnyrch/System). Ymgymerir â phrosiect yn seileidig ar faws o ddiddordeb personol i chi yn yr ail lwyddyn.

Asesu

Asesir y cyrsiau hyn gan ystod eang o ddulliau a allai gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, gwaith ymarferol ar gyfrifiaduron, portffolio o waith, cwblhau coflyfrau, rhoi cyflwyniadau gan gynnwys aseiniadau, arbrofion labordy ac arholiadau cyfyngedig i amser.

Gofynion mynediad

Y gofynion academaidd ar gyfer y radd sylfaen yma yw 100 pwynt UCAS neu gyfwerth. Gweler y .

Côd UCAS

Llawn amser: H330

Hyd

Llawn amser: 2 flynedd

Cyrsiau israddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk