Text begins here:
Ynni Adnewyddadwy a Thechnolegau Cynaliadwy
Pam dewis Ynni Adnewyddadwy a Thechnolegau Cynaliadwy?
Un o’r blaenoriaethau byd-eang allweddol yw dileu tarthiad carbon o adeiladau hen a newydd gan eu bod yn gyfrifol am tua hanner o’r tarthiadau tŷ gwydr. Mae Llywodraeth y DU yn ymroddedig i ddileu’r holl lefelau carbon ar gyfer pob cartref newydd erbyn 2016 ond mae Cymru wedi dewis arwain y ffordd gyda tharged i gyflawni hyn ar gyfer pob adeilad erbyn 2011. Mae yna gynlluniau buddsoddi uchelgeisiol a gorchymyn gwleidyddol i lwyddo er mwyn cwrdd â Chytundeb Kyoto. O ganlyniad mae galw am genhedlaeth newydd o reolwyr, peirianwyr a thechnegwyr gwybodus i ddatblygu agweddau newydd at anghenion ynni a thechnolegau cynaliadwy sy’n gorfod mwyhau’r cyfleoedd ar gyfer cynhyrchu carbon isel ac adnewyddadwy yn ogystal â microgynhyrchu a chynhyrchu ar raddfa gymunedol.
Mae portffolio cwrs Prifysgol Glyndŵr yn y maes yma sy’n prysur newid yn rhoi cyfle i chi astudio o’r radd sylfaen trwodd i radd anrhydedd. Mae hyn yn ein galluogi i gynnig ystod o lefelau mynediad a gadael gan wneud ein cyrsiau yn hygyrch i fyfyrwyr arfaethedig gydag amrywiaeth o gymwysterau. Rydym hefyd yn cymryd eich profiad gwaith blaenorol i ystyriaeth er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y cwrs astudio sy’n fwyaf addas i chi.
Nodweddion arbennig
- Cyfleusterau rhagorol sy’n cynnwys labordai dylunio â chymorth cyfrifiadurol wedi eu hofferu’n dda, labordai electroneg modern, meddalwedd dynwaredol systemau gweithgynhyrchu arbenigol, labordai offeryniaeth safon diwydiant, cyfleuster Rapid Prototyping rhagfanylion diwydiant.
- Labordy twnnel gwynt is-sonig a labordai deinameg thermohylifol wedi’u hofferu’n dda gan gynnwys olwyn pelton a thyrbin francis sy’n gweithredu’n llawn.
- Ceir cyfleoedd ar gyfer ymweliadau diwydiannol â chwmnïau lleol.
- Byddwch yn cael gwneud defnydd o becynnau meddalwedd safon diwydiant megis: Altium Designer, EWB Multisim, HP VEE, MATLAB & Simulink, ABAQUS, AutoCAD, Fluent, ProEngineer, SolidWorks.
- Byddwch yn gymwys i ymuno â’r cyrff proffesiynol canlynol: y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET), y Sefydliad Ynni (EI), Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE), Cymdeithas y Peirianwyr Adeiladu (ABE), a’r Sefydliad Siartredig Adeiladu (CB) fel aelodau myfyrwyr, ar ôl talu ffi.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae gyrfa mewn ynni adnewyddadwy yn un o’r ffyrdd mwyaf cadarnhaol ac uniongyrchol y gallwch gyfrannu at y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd a niwed amylcheddol byd-eang. Mae’r ras i ddatblygu rhaglenni ynni adnewyddadwy effeithiol ac economegol gynaliadwy wedi gwneud ynni adnewyddadwy yn un o’r marchnadoedd swyddi sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Mae Cymdeithas Ynni Gwynt Prydain yn amcangyfrif y gallai buddsoddiad diweddar mewn ynni gwynt yn unig arwain at greu 5,000 o swyddi peirianyddol, ac 19,000 o swyddi newydd eraill erbyn 2010.
Cydnabyddir fod yna brinder cenedlaethol o beirianwyr cymwysedig. O ganlyniad, bydd cymwysterau mewn Ynni Adnewyddadwy a Thechnolegau Cynaliadwy o Brifysgol Glyndŵr yn denu sylw gan gyflogwyr ar unwaith. Bydd y cefndir eang a gewch yn sgil y cyrsiau hyn yn eich galluogi i gyfrannu at ddylunio systemau a phrosesau ynni adnewyddadwy er mwyn cwrdd â gofynion yn y dyfodol o fewn y marchnadoedd yn y DU a ledled y byd.
Gwybodaeth am y cwrs
BEng (Anrh) Ynni Adnewyddadwy a Thechnolegau Cynaliadwy
Cynnwys y cwrs
Mae’r flwyddyn gyntaf o’r cwrs yma wedi’i chynllunio i roi sylfaen gadarn i chi yn yr egwyddorion y byddwch yn adeiladu eich astudiaethau arnynt: astudiaethau proffesiynol, egwyddorion trydanol a theori cylched, a’r amgylchedd cynaliadwy. Bydd y cwrs yma yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau mewn rhoi cynllun ar waith a CAD, gan gynnig modiwlau mewn mathemateg yn ogystal er mwyn gloywi’r sgiliau hyn yn ôl y galw gan amryw o rolau swyddi. Mae dysgu yn yr ail flwyddyn ar lefel fwy dadansoddol, er enghraifft gweithio gydag offer dadansoddol cyfrifiadurol ac astudio technoleg adeiladaeth mwy soffistigedig, deinameg peirianneg, mecaneg thermohylifol a systemau pwerau trydanol. Mae gennych opsiwn yn yr ail flwyddyn i gymryd llwybr Dylunio Peirianyddol neu lwybr Sgiliau Ymchwil: dewis modiwlau arbenigol mewn rheolaeth ddiwydiannol ac electroneg pŵer neu eroddynameg a rheolaeth iechyd a diogelwch neu arfer datblygu cynaliadwy neu gynaliadwyedd a rheolaeth adnoddau.
Bydd Rheoli Prosiect ac Effaith Astudiaethau Arloesol yn ffurfio asgwrn cefn astudiaethau’r Drydedd Flwyddyn ynghyd â nifer o bynciau arbenigol, gan gynnwys Storio Ynni a Chynhyrchu Bioynni. Mae yna opsiynau pellach yn y drydedd flwyddyn sy’n eich galluogi i addasu mwy ar eich gradd i’ch anghenion. Mae’r opsiynau modiwl yn cynnwys: astudiaethau rhyngbroffesiynol, gwyddoniaeth a thechnoleg mewn cymdeithas, dylunio a phrofi electroneg neu dyrbobeirianneg ac ynni a chynhyrchu pŵer. Mae gennych ddewis yn y drydedd flwyddyn i gynnal cynllun unigol, prosiect profi ac adeiladu neu draethawd estynedig.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd ag aseiniadau, arbrofion labordy, astudiaethau achos a CAD. Bydd cyfuniad o’r rhain yn ffurfio rhan o’ch asesiad ynghyd ag arholiadau ffurfiol. Ni cheir arholiadau ffurfiol yn y flwyddyn gyntaf.
Gofynion mynediad
Y gofynion academaidd ar gyfer y radd anrhydedd yw o leiaf 200 pwynt UCAS. Fe allai profiad addas gael ei dderbyn yn hytrach na chymwysterau ffurfiol, yn amodol ar gyfweliad. Gweler y .
Côd UCAS
Llawn amser: HH36 Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 3 blynedd Rhan amser: 6 mlynedd
FdEng Systemau Ynni Adnewyddadwy
Cynnwys y cwrs
Mae’r flwyddyn gyntaf wedi’i chynllunio i roi sylfaen gadarn i chi ar gyfer eich astudiaethau; cewch gyfle i loywi eich sgiliau a’ch gwybodaeth mewn mathamateg gymhwysol, gwyddoniaeth drydanol a mecanyddol yn ogystal â chyflwyniadau i gymwysiadau cyfrifiadurol peirianyddol, amgylchedd cynaliadwy a thechnoleg adeiladaeth. Ynghyd â’r astudiaethau hyn, mae’r modiwlau seiliedig ar waith yn cynnwys arferion iechyd a diogelwch, rheolaeth ddiwydiannol, ymchwilio a hyfforddi seiliedig ar waith.
Bydd yr ail flwyddyn yn ychwanegu at eich gwybodaeth a’ch profiad mewn gwyddoniaeth drydanol a mecanyddol, systemau ynni adnewyddadwy a thechnoleg adeiladaeth – ochr yn ochr â hyn, mae modiwlau seiliedig ar waith yn canolbwyntio ar sgiliau gyrfaol a rheoli prosiect peirianyddol. Ymgymerir â phrosiect, ar bwnc sy’n unol â’ch anghenion a’ch diddordebau.
Asesu
Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn ymgymryd ag aseiniadau, arbrofion labordy, astudiaethau achos a CAD. Bydd cyfuniad o’r rhain yn ffurfio rhan o’ch asesiad ynghyd ag arholiadau ffurfiol. Ni cheir arholiadau ffurfiol yn y flwyddyn gyntaf.
Gofynion mynediad
Ar gyfer y radd sylfaen, mae’r gofynion academaidd yn 100 pwynt neu uwch; fel arall fe allai Tystysgrif Genedlaethol neu Gwrs Mynediad gael eu derbyn. Fe allai profiad addas gael ei dderbyn yn lle cymwysterau ffurfiol yn amodol ar gyfweliad. Gweler y .
Côd UCAS
Llawn amser: HH63 Rhan amser: cais uniongyrchol
Hyd
Llawn amser: 2 flynedd Rhan amser: 4 blynedd
|
Am fwy o wybodaeth am ein cyrsiau ffoniwch 01978 293439 neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk
|