Gwyddoniaeth a Thechnoleg Polymer
MRes Gwyddoniaeth a Thechnoleg Polymer
Mae’r rhaglen MRes yma wedi’i seilio yn y Ganolfan Ymchwil Gwyddor Defnyddiau ac yn darparu gwybodaeth am a dealltwriaeth arbenigol o gemeg ffisegol, prosesu a chymwysiadau diwydiannol systemau macromoleciwlaidd, ynghyd â datblygu sgiliau generig mewn rheolaeth prosiect ymchwil.
Defnyddir defnyddiau polymerig mewn ystod amrywiol o gynnyrch diwydiannol, defnyddwyr a biomeddygol ac adlewyrchir yr agweddau hyn yn y rhaglen. Mae gwreiddioldeb wrth ddatrys problemau yn cael ei feithrin trwy ystyried nifer o astudiaethau achos diwydiannol, darlithoedd gan siaradwyr diwydiannol a’r opsiwn i ymgymryd â phrosiect ymchwil a noddir gan ddiwydiant.
Mae gan y Ganolfan Ymchwil Gwyddor Defnyddiau gryfderau penodol mewn polysacaridau a hydrocoloidau, prosesu adweithiol a datblygu proses polymereiddio, rheoleg arbrofol a chymwysiadau diwydiannol polymerau toddadwy mewn dŵr. Mae’r agwedd gyffredinol yn un amlddisgyblaethol ac yn cwmpasu meysydd datblygol megis polymerau o adnoddau adnewyddadwy a nanodechnoleg feddal.
Nodweddion arbennig
- Cyfleoedd cyflogaeth rhagorol yn fyd-eang mewn ystod o sectorau diwydiannol allweddol – gan gynnwys biomeddygol, fferyllol, adnewyddadwy a nanodechnoleg feddal.
- Llawer iawn o ymwneud â diwydiant yn sgil astudiaethau achos, darlithoedd diwydiannol a phrosiectau ymchwil a noddir gan ddiwydiant.
- Cyfleusterau prosesu a nodweddu polymerau tra modern – ffracsiynu polymerau, gwasgaru golau, rheomedreg croeswasgu ac estynnol, dadansoddi thermol, allwthiad, llunio chwistrelliadau.
- Mae hwn yn llwybr ‘llamu disgyblaethau’ rhagorol i astudiaeth ddoethurol mewn maes sy’n ymwneud â pholymerau.
- Amgylchedd dysgu cefnogol mewn timau ymchwil sefydlog ac agwedd myfyriwr-ganolog at hyfforddi ac asesu.
Cyfleoedd gyrfaol
Mae’r cwrs yn darparu cyfleoedd gyrfaol rhagorol mewn ystod eang o sectorau diwydiannol. Gall graddedigion ddisgwyl cael swyddi ymchwil a datblygu mewn meysydd sy’n gysylltiedig â dyfeisiau biomeddygol, fformiwleiddio fferyllol, bwyd a diod, adfer petroliwm, agrogemegau, polymerau swyddogaethol/cemegau arbenigol, inc, paent a chaenau neu gosmetigion a chynnyrch gofal personol.
Mae’r cwrs hefyd yn darparu llwybr uniongyrchol i astudiaeth ddoethurol, i’r rheiny sy’n dymuno ymgymryd â hyfforddiant ymchwil pellach neu fynd ar drywydd gyrfa academaidd.
Cynnwys y cwrs
- Dulliau Dadansoddol II
- Dulliau Dadansoddol III
- Prosiect Ymchwil a Thraethawd Estynedig MRes
Modiwlau arbenigol
- Cemeg a Thechnoleg Polymerau Toddadwy mewn Dŵr
- Rheoleg a Phrosesu Systemau Macromoleciwlaidd
Asesu
Asesir Dulliau Dadansoddol trwy ymarferion datrys problemau llyfr agored ac arholiad ffurfiol nas gwelwyd.
Asesir Modiwlau Arbenigol trwy asesiad trafodedig a addasir i anghenion penodol myfyrwyr unigol, sydd wedi eu nodi mewn cytundeb dysgu. Mae asesiadau mynegol yn cynnwys adolygiad beirniadol o lenyddiaeth sy’n ymwneud â modiwl, gwaith ymarferol mewn labordy (cyfosod polymerau, prosesu neu ddadansoddi offer), cyflwyniadau poster a chyflwyniadau llafar.
Edrychir ar y prosiect ymchwil yn gyfan gwbl trwy arholiad viva voce ym mhresenoldeb arholydd mewnol ac allanol.
Gofynion mynediad
Gradd gyntaf dda yn y gwyddorau ffisegol, gwyddor defnyddiau, peirianneg cemegol neu ddisgyblaeth gysylltedig neu brofiad cyfatebol mewn diwydiant sy’n ymwneud â pholymerau.
Hyd y cwrs
Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd


