Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Peirianneg Awyrennol

MSc Peirianneg Awyrennol

Mae Peirianneg Awyrennol yn faes peirianneg cyflym a phoblogaidd. Gyda’r duedd fyd-eang tuag at deithio cyflym a’r dyluniad radical diweddar o awyrennau masnachol deulawr, fu yna erioed amser mor ddiddorol a chyffrous i astudio’r pwnc yma.  

Mae gan Brifysgol Glyndŵr gysylltiadau agos gyda’r diwydiant awyrofodol gan gynnwys Airbus UK, sydd wedi helpu i addasu’r cwrs i gwrdd â gofynion diwydiant. 

Nodweddion arbennig

  • Mae’r cwrs yma yn caniatáu i chi wneud cais i fod yn aelod myfyriwr o Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol a’r Gymdeithasol Awyrennol Frenhinol.
  • Bydd y rhaglen yma yn ysgogi eich diddordebau mewn peirianneg awyrennol ac yn eich galluogi i ddatblygu cysyniadau newydd.
  • Mae’r radd yn canolbwyntio ar ymchwil a datblygiad mewn meysydd megis deinameg hylifau cyfrifiannol, dadansoddi elfennau terfynedig, dylunio, erodynameg gymwysedig, aden gymysg, dylunio strwythur, lleihau sŵn erodynameg a datblygu defnyddiau uwch. 

Cyfleoedd gyrfaol

Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi hybu eich gyrfa i lefelau rheolaeth. Fe allech hefyd ystyried swyddi ymgynghori, ymchwil a datblygu, profi a dylunio o fewn y diwydiant awyrennol, er enghraifft yn Airbus.

Cynnwys y cwrs

  • Dylunio a Dulliau Ymchwil
  • Deinameg Hylifau Cyfrifiannol Uwch
  • Strwythurau Awyrofodol a Dadansoddi Rhifyddol
  • Erodynameg Gymwysedig
  • Defnyddiau Awyrennol Uwch
  • Traethawd Estynedig

Opsiynau

  • Technolegau Gweithgynhyrchu Uwch
  • Deinameg a Rheolaeth Hedfan

Asesu

Fe’ch asesir trwy gydol eich cwrs gan amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.

Gofynion mynediad

Gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol neu brofiad proffesiynol perthnasol.

Hyd y cwrs

Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk