Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Prosesu Sain a Llun Digidol

MSc Prosesu Sain a Llun Digidol

Mae’r diwydiant cyfathrebu yn un o ddiwydiannau allweddol yr unfed ganrif ar hugain. Astudiwch yr MSc Prosesu Sain a Llun Digidol a byddwch yn gallu dal i fyny gyda thechnoleg newydd a chwarae rhan bwysig yn y datblygiad a’r defnydd ohoni.

Mae’r modiwlau yn seiliedig ar y technegau diweddaraf a’r modd y gellid eu cymhwyso i gyfathrebu llyfn, gan gynnwys Peirianneg Amledd Radio, Opteg Ffibrau ac Offer DVD, ac Amgylcheddau Acwstig a Recordio Digidol. Cwblhewch y cwrs yn llwyddiannus a byddwch ar flaen y gad mewn datblygiadau sain a llun, gan roi mantais i chi wrth geisio datblygu eich gyrfa a chyfrifoldebau newydd.  

Nodweddion arbennig

  • Cefnogaeth ragorol ar gael i fyfyrwyr o fewn amgylchedd dysgu/ymchwil.
  • Cael cyflwyniad i ddatblygiadau technolegol blaenllaw mewn sain a llun digidol.
  • Cyfleusterau ac offer dadansoddi prosesu sain a llun digidol tra modern. Mae’r rhain yn cefnogi elfennau a addysgir ac ymchwil y rhaglen.

Cyfleoedd gyrfaol

Mae yna nifer gynyddol o yrfaoedd ar gael yn y diwydiant cyfathrebu, gan gynnwys peirianneg sain. Mae yna gyfle hefyd i fynd i faes rheolaeth peirianneg, ar lefel uwch neu fel llwybr i ymchwil academaidd. 

Cynnwys y cwrs

  • Dulliau Ymchwil
  • Rheoli prosiect
  • CAD Uwch
  • Amgylcheddau Acwstig a System Recordio Digidol
  • Prosesu Signal Digidol Uwch
  • Prosesu Delweddau Digidol
  • Dylunio Electronig Uwch
  • Traethawd Estynedig

Opsiynau

  • Dylunio a Phrofi Electronig Uwch
  • Peirianneg Amledd Radio
  • Dylunio Systemau Gosodedig

Asesu

Fe’ch asesir trwy gydol eich cwrs gan amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.

Gofynion mynediad

Gradd anrhydedd (mewn Peirianneg os yn bosibl), gyda chymhwyster da mewn pwnc perthnasol (neu gymwyster tramor cyfwerth).

Hyd y cwrs

Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd

Cyrsiau ol-raddedig

Am fwy o wybodaeth
am ein cyrsiau
ffoniwch
01978 293439
neu ebostiwch
SID@glyndwr.ac.uk