Systemau Trydanol ac Electronig a Thechnolegau Digidol
MSc Systemau Trydanol ac Electronig a Thechnolegau Digidol
Mae’r MSc Systemau Trydanol ac Electronig a Thechnolegau Digidol yn cyfuno meysydd ehangol technoleg trydanol ac electronig – meysydd sydd yn aml yn llwybr dyluniadau newydd ac yn cael cryn effaith dechnolegol ar fywyd bob dydd. Ar ôl cwblhau’r radd, bydd gennych y sgiliau a’r wybodaeth i fod ar flaen y gad mewn technoleg, fel y byddwch yn gallu chwarae rhan bwysig mewn dyfeisiadau a gwelliannau technolegol.
Nodweddion arbennig
- Cefnogaeth ragorol ar gael i fyfyrwyr o fewn amgylchedd dysgu/ymchwil.
- Cael cyflwyniad i ddatblygiad technolegol blaenllaw mewn technoleg trydanol ac electronig.
- Cyfleusterau TG ac offer dadansoddi tra modern yn cefnogi elfennau a addysgir ac ymchwil y radd.
Cyfleoedd gyrfaol
Bydd y cwrs yn eich galluogi i fynd ar drywydd gyrfa ble gallwch gyfrannu at ddatblygiad syniadau a thechnegau newydd mewn peirianneg masnachol. Bydd hefyd yn rhoi llwybr delfrydol i chi ar gyfer gyrfa mewn ymchwil academaidd.
Cynnwys y cwrs
- Dulliau Ymchwil
- Rheoli prosiect
- CAD Uwch
- Systemau Rheoli Uwch
- Gyriannau Trydanol ac Electroneg Pŵer Uwch
- Dylunio a Phrofi Electronig Uwch
- Traethawd Estynedig
Opsiynau
- Prosesu Signal Digidol Uwch
- System Gosodedig
Asesu
Fe’ch asesir trwy gydol eich cwrs gan amryw o ddulliau gan gynnwys portffolios, cyflwyniadau ac, ar gyfer rhai pynciau, arholiadau.
Gofynion mynediad
Gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn disgyblaeth beirianneg briodol neu brofiad proffesiynol perthnasol.
Hyd y cwrs
Llawn amser: 1 mlynedd
Rhan amser: 2-3 blynedd


