Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Wrecsam yn dathlu sefydlu Prifysgol Glyndŵr

28 Chwefror 2009
Wrecsam yn dathlu sefydlu Prifysgol Glyndŵr

Daeth dros 500 o westeion, gan gynnwys gwleidyddion, ysgolheigion a chyfeillion Prifysgol Glyndŵr at ei gilydd yn Wrecsam ddydd Sadwrn i nodi sefydliad swyddogol y Brifysgol.

Cyn y seremoni ffurfiol, ble cafodd Canghellor ac Is-Ganghellor y Brifysgol eu gorseddy, cafwyd gorymdaith trwy ganol Wrecsam, wedi’i harwain gan arweinwyr trefol, cymrodorion y Brifysgol ac aelodau o staff academaidd y Brifysgol.

Er i’r Brifysgol gael ei ffurfio yn swyddogol ym mis Gorffennaf y llynedd ar ôl derbyn teitl prifysgol gan y Cyfrin Gyngor, trefnwyd y lansiad seremonïol ffurfiol i ddathlu statws newydd y Brifysgol.

Roedd y seremoni yn cynnwys cyfres o ddarlleniadau a cherddoriaeth a pherfformiad gan Fand Pres Glyndŵr Wrecsam o bedair ffanffer newydd a darn a gomisiynwyd yn arbennig, Gobaith Glyndŵr, gyda geiriau Peredur Glyn wedi’u gosod i gerddoriaeth gan y cyfansoddwr lleol Owain Llwyd i goffáu’r achlysur.

Yn ogystal, cyflwynwyd y Brifysgol gyda’i harfbais gan Herald o’r Coleg Arfbeisiau. Mae’r arfbais wedi’i dylanwadu’n gryf gan arfbais wreiddiol Owain Glyndŵr, gyda nodweddion ychwanegol sy’n symbolau o ddysg.

Daeth dathliadau’r dydd i ben gyda chyngerdd a sioe dân gwyllt yng nghampws y Brifysgol.

Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Roedd y diwrnod cyfan yn ddathliad gwych. Roedd yn gyfle i bawb sy’n gysylltiedig â’r brifysgol ddathlu’r gamp aruthrol o sicrhau fod gan Wrecsam erbyn hyn y Brifysgol y mae’n ei llawn haeddu.”

Mae mwy o ddigwyddiadau cymunedol, cyngherddau, arddangosfeydd a drama ar y gweill i nodi Blwyddyn o Ddathlu’r Brifysgol, yn dilyn y seremoni sefydlu. 

Gweler y rhestr lawn o ddigwyddiadau’r Flwyddyn o Ddathlu.

Cysylltwch a ni