Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Ein campysau a’n cyfleusterau

NEWYDD 2010/11 - Canolfan y Diwydiannau Creadigol

NEWYDD 2010/11 - Canolfan y Plentyn, y Teulu a'r Gymdeithas

Mae Prifysgol Glyndŵr wedi’i leoli ar ochr ogledd orllewinol Wrecsam yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Mae ganddo ddau brif safle o fewn pum munud i’w gilydd ar droed.

Plas Coch, ar Ffordd y Wyddgrug a drws nesaf i’r Cae Ras,  maes pêl-droed Wrecsam, yw’r mwyaf o’r ddau ble cynhelir y mwyafrif o raglenni Prifysgol Glyndŵr. Mae Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru wedi’i lleoli yng nghampws Stryt y Rhaglaw, sydd ond deg munud i ffwrdd ar droed i gyfeiriad canol y dref.

Rhwng y ddau safle mae gorsaf reilffordd Gyffredinol Wrecsam, ac mae’r orsaf bysiau wedi’i lleoli yng nghanol y dref, pum munud i ffwrdd ar droed o Stryt y Rhaglaw.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y cyfleusterau sydd ar gael ym Mhrifysgol Glyndŵr i fyfyrwyr a’r gymuned ehangach trwy ddilyn y dolenni ar ochr chwith y we-dudalen yma.

Gweler hefyd ein hadran cymorth i fyfyrwyr am fanylion o ba wasanaethau cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr.

Ein campysau a’n cyfleusterau
Bookmark and Share