Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Canolfan y Plentyn, y Teulu a'r Gymdeithas

Canolfan y Plentyn, y Teulu a'r Gymdeithas

Yn sgil ymagwedd arloesol Llywodraeth y Cynulliad at ddatblygiad plentyn, mae Prifysgol Glyndwˆ r yn buddsoddi dwy filiwn o bunnau mewn Canolfan newydd i’r Plentyn, y Teulu a’r Gymdeithas.

Wedi ei hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, mae’r Ganolfan wedi ei seilio ar gysyniad Sgandinafaidd, a rhydd hyn y cyfle i’r rhai sy’n gweithio ym maes datblygiad plentyn i fireinio eu sgiliau mewn modd academaidd ac ymarferol ynghyd â darparu cyfleuster rhagorol ar gyfer gweithgareddau ymchwil addysgol.

Mae’r Ganolfan yn seiliedig ar ddull integredig o ddatblygu plant, ac felly’n cynnwys amrywiaeth eang o arbenigeddau sy’n effeithio ar blant gan gynnwys iechyd, maeth, seicoleg plant, ymarfer ac addysg.

Mae gan yr adeilad gyfleusterau ar gyfer babanod, plant bach a phlant cyn-ysgol, gan gynnwys mannau chwarae tu mewn a thu allan, ystafelloedd cysgu, ac ystafell synhwyrau yn ogystal ag ystafelloedd seminar ac arsylwi.

Mae mannau o fewn y Ganolfan ar wahân er mwyn sicrhau'r diogelwch mwyaf posib, ac mae mynedfeydd gwahanol ar gyfer y cyfleusterau addysg a gofal plant.

Ein campysau a’n cyfleusterau
Bookmark and Share