Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Croeso i Brifysgol Glyndŵr Llaneurgain

Wedi’i lleoli mewn 91 hectar o diroedd a chyfleusterau, mae’n amgylchedd addysg rhagorol ar gyfer myfyrwyr Prifysgol gwledig a thirol...

Wedi’u lleoli yn Llaneurgain ac yn edrych dros Aber Dyfrdwy, mae campws newydd Prifysgol Glyndŵr yn Sir Fflint yn rhannu’i diroedd gyda Choleg Garddwriaeth Cymru.

 
Datblygiad newydd

Daw’r datblygiad newydd cyffrous o gael campws ar y lleoliad hwn â phresenoldeb prifysgol i Sir Fflint am y tro cyntaf.

Mae’r campws yn gwbl ymroddedig i addysg a gweithgareddau tirol, a dyma’r lle i astudio os yw gyrfa yn y sectorau gwledig, anifeiliaid neu dirol yn mynd â’ch bryd.

  Datblygwyd y stad dros yr 50 mlynedd diwethaf i ddarparu ystod eang o amgylcheddau dysgu a chyfleusterau defnydd o’r tir i fyfyrwyr, gan gynnwys:  
Chymeradwyo gan y BHS
  • Uned Geffylau wedi’i Chymeradwyo gan y BHS (Cymdeithas Geffylau Prydain) gyda stablau, mannau marchogaeth dan do ac awyr agored a chwrs traws gwlad
  • Canolfan Sgiliau Tirlunio
  • Labordai amgylcheddol a gwyddonol eraill
  • Stiwdios blodeuwaith a siop flodau fasnachol
  • 4 erw o ardal cynhyrchu stoc planhigfa a thai gwydr masnachol
Coetir hynafol ac ardal gadwraeth
  • Coetir hynafol ac ardal gadwraeth
  • Gerddi ffurfiol ac anffurfiol
  • Ardal tyfu llysiau a ffrwythau
  • Cyfleusterau pysgota
  • Ystafell Fusnes a TG yn cynnwys cyfleuster cynadledda fideo
  • Llety myfyrwyr
 
Lleoliad trawiadol

Mae’r lleoliad trawiadol a’r cyfleusterau rhagorol yn darparu’r lleoliad perffaith ble gall ein myfyrwyr tirol roi eu hastudiaethau a’u haddysg ar waith.

Mae myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr sydd wedi’u lleoli ar gampws Sir Fflint hefyd yn gallu gwneud defnydd o bopeth sydd gan gampws Wrecsam i’w gynnig.

Dilynwch y dolenni hyn i ddarganfod mwy am:

Ein campysau a’n cyfleusterau
Bookmark and Share