Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk
Ein cymorth i fyfyrwyr

Ein cymorth i fyfyrwyr

Mae Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ystod eang o wasanaethau cymorth i fyfyrwyr i’ch helpu chi i lwyddo yn ystod eich cyfnod yma. Mae’r rhain yn amrywio o wasanaethau lles, gan gynnwys darpariaeth gofal iechyd a chymorth anabledd, i wasanaethau ymarferol fel llungopïo ac e-bostio. 

Y canolbwynt ar gyfer llawer o’r gwasanaethau hyn yw ein Desg Gwybodaeth Myfyrwyr (SID). Mae hon wedi’i lleoli yng Nghanolfan Edward Llwyd, sy’n gartef i lawer o’r timau gwasanaeth cymorth yn ogystal.

Mae SID yno fel man galw cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau y gallai fod gennych. Bydd y tîm yn delio gyda chwestiynau am unrhyw beth a phopeth, o faterion cyllid i ble mae pethau o gwmpas y campws i broblemau llety ac ymholiadau cludiant. Gallant hefyd eich rhoi chi mewn cysylltiad gydag adrannau unigol pe bai arnoch angen siarad gyda rhywun yn fwy manwl am wasanaeth penodol.

Dilynwch y dolenni yn y ddewislen ar y chwith i ddysgu mwy am y gwahanol wasanaethau neu, am fwy o wybodaeth am unrhyw un o’n gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr, cysylltwch â SID:

Ein cymorth i fyfyrwyr
Bookmark and Share