'Eu bai nhw ydyw am gymryd cyffuriau'
Yr Athro Julian Buchanan, Athro Cyfiawndwr Troseddol a Chymunedol
Iau 21 Mai 2009, 7.00pm
Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam, Cymru, y DU
Ers y 1970au hwyr, mae’r defnydd anghyfreithlon o gyffuriau wedi’i ymsefydlu fel problem gymdeithasol. Mae’r ymateb wedi cael ei reoli i raddau helaeth gan fesurau llymach i orfodi pobl i dderbyn triniaeth a bod yn rhydd o gyffuriau neu wynebu carchar yn y pen draw. Ond ar ôl degawdau o bolisïau cyffuriau llym, mae ein carchardai yn orlawn o ddefnyddwyr cyffuriau a phobl gydag anawsterau personol niferus. Ymddengys mai dim ond ychydig o gynnydd sydd wedi cael ei wneud i leihau maint cyffredinol y broblem gyffuriau neu’r gyfran o bobl sy’n cymryd cyffuriau anghyfreithlon.
Bydd y ddarlith hon yn edrych ar y modd y mae’r ‘rhyfel yn erbyn cyffuriau’ yn cael ei ymladd fel ‘rhyfel yn erbyn defnyddwyr cyffuriau’. Tra bod y rhan fwyaf o strategaethau wedi canolbwyntio ar agweddau corfforol a seicolegol dibyniaeth, mae’r ymchwil yma wedi amlygu cyd-destun cymdeithasol a strwythurol pwysig – ond un a anwybyddir yn aml – defnydd problematig o gyffuriau. Dadleuir y bydd stigmateiddio defnydd anghyfreithlon o gyffuriau wedi ei gwneud yn anoddach i ddefnyddwyr cyffuriau problematig wella. Edrychir ar fodelau cysyniadol amgen sy’n hyrwyddo agwedd fwy cynhwysol.

