|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ysgolion academaidd
|
||
|
01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk |
Ysgolion academaiddMae ysgolion academaidd Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ystod eang o gyrsiau mewn llawer o wahanol feysydd pwnc. Yr ydym yn ymfalchïo yn y ffaith fod y cyrsiau hyn yn berthnasol i ddiwydiant a bod gan raddedigion Prifysgol Glyndŵr gofnod o gyflogadwyedd rhagorol. Dengys canlyniadau diweddaraf Arolwg Cyrchfan Gadawyr Addysg Uwch 2006 gyflogadwyedd cyffredinol o 92% i fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr chwe mis ar ôl graddio. (Dyma oedd y ffigyrau diweddaraf oedd ar gael pan aethpwyd i’r wasg). Mae ein llwyddiant yn dibynnu ar y ffaith fod ein cyrsiau yn darparu’r union beth mae cyflogwyr yn edrych amdano. Yr ydym yn cyflawni hyn trwy ein cysylltiadau agos gyda chyflogwyr a chyrff proffesiynol ar lefel leol a chenedlaethol. Mae gwaith project yn aml yn seiliedig ar sefyllfaoedd go-iawn ac yn aml yn golygu gweithio gyda chwmni i ddatblygu atebion i broblemau masnachol go-iawn. Mae gan Prifysgol Glyndŵr hefyd sylfaen ymchwil ac ysgoloriaeth gref, ac mae hynny yn cael cryn ddylanwad ar ein cyrsiau. Mae’n sicrhau fod ein ysgolheigion yn gwybod y diweddaraf am yr ymchwil a’r syniadau diweddaraf yn eu maes, ac mae hyn yn ei dro yn cadw’r cyrsiau yn gyfredol a diwydiant yn berthnasol. Ewch i’n tudalennau gwe ar gyfer yr ysgolion unigol i ddarganfod mwy am yr hyn y gallant ei gynnig i chi. |
|