Ysgol Addysg a Chymuned
Mae gan Brifysgol Glyndŵr ysgol Addysg a Chymuned lewyrchus, gyda thîm o staff ymroddedig, sydd wedi adeiladu ei henw da ers 1946 ar draddodiad hir o addysg a hyfforddiant yn Wrecsam.
Yn y 60 mlynedd ers hynny, sefydlwyd y pwnc yn gadarn o fewn y Brifysgol wrth iddi gael enw rhagorol yn lleol ac yn rhyngwladol. O ganlyniad, mae’r Ysgol wedi datblygu rhwydwaith eang o bartneriaid sy’n cefnogi ystod helaeth y Brifysgol o raglenni, sy’n ymestyn tu hwnt i addysg draddodiadol i gyrsiau ym meysydd addysg a hyfforddiant i athrawon yn y sector ôl-orfodol, gwaith chwarae, a gwaith gyda phlant a theuluoedd.
Yn 2009, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ostyngiad o 50% mewn llefydd hyfforddi athrawon cynradd ledled Cymru ac, i’r diben yma, dywedodd y Cynulliad wrth Brifysgol Glyndŵr am roi’r gorau i ddarparu llefydd ITET ar ei gwrs tair-blynedd cyfredol BA (Anrh) mewn Addysg Gynradd gyda SAC. Cafwyd y derbyniad llawn diwethaf o athrawon dan hyfforddiant ym mis Medi 2009 a bydd myfyrwyr llwyddiannus yn graddio yn 2012.
Mae cyrsiau gradd a gynigir yn yr Ysgol yn cynnwys BA (Anrh) Astudiaethau Plentyndod Cynnar, BA (Anrh) Addysg ac Astudiaethau Plentyndod, BA (Anrh) Chwarae a Gwaith Chwarae, Gradd Sylfaen Astudiaethau Plentyndod Cynnar, Gradd Sylfaen Cefnogi Dysgu, a Gradd Sylfaen Dysg a Datblygiad Babanod a Plant Bach. Mae’r cyrsiau hefyd yn cynnwys PGCE/Tyst Add Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET), BA (Anrh) Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (gradd atodol i’r rheiny gyda Thyst Add PcET nad ydynt yn meddu ar radd gyntaf), Tystysgrif Uwchraddedig mewn Datblygiad Proffesiynol mewn Addysg Uwch, ac MA Addysg.
Achredir ein rhaglenni i gyd ar lefel raddedig, uwchraddedig neu Feistr. Mae’r Brifysgol yn parhau i ehangu a gwella ei phortffolio o gyrsiau datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) ym maes addysg a chymuned.
Mae statws yr Ysgol fel un o Ysgolion Addysg blaenllaw Cymru wedi cael ei atgyfnerthu ymhellach gan ei rôl flaenllaw yn sefydlu Prifysgol y Plant Wrecsam, sef y gyntaf o’i bath yng Nghymru a’r enghraifft orau o gorff o’r fath ar waith.
Ochr yn ochr â’r Ysgol y mae Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth y Brifysgol, TECHNIQUEST Glyndŵr, sy’n darparu canolfan ragorol ble gall myfyrwyr gael profiad gwerthfawr o weithio gyda phlant a dod o hyd i ffyrdd newydd a chyffrous o gyflenwi’r cwricwlwm.
Mae’r Ysgol yn cefnogi’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil ac Ysgoloriaeth Addysgol, sy’n hyrwyddo diwylliant ymchwil ac ysgoloriaeth trwy’r Brifysgol. Mae ymchwil y Ganolfan yn canolbwyntio ar ddatblygu modelau o arfer proffesiynol sy’n annog dysg ac yn gwella profiad dysgu’r myfyrwyr.

