Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk

Ysgol Fusnes

Daw myfyrwyr Ysgol Fusnes o gefndiroedd gwirioneddol eang ac amrywiol, yn amrywio o adawyr ysgol i reolwyr busnes aeddfed, â chymysgedd diwylliannol sy’n darparu safbwyntiau cenedlaethol a rhyngwladol. Mae myfyrwyr yn Ysgol Fusnes yn cael eu denu gan y lefel amrywiol a’r ystod o feysydd pwnc, sy’n darparu rhaglenni astudio mewn ystod o raddau, rhaglenni proffesiynol, ac opsiynau uwchraddedig trwodd i astudiaeth ar lefel ddoethuriaeth. Mae gan staff yn Ysgol Fusnes enw da sy’n destun eiddigedd am eu natur gyfeillgar a chefnogol.

Rhoddir pwyslais o fewn yr Ysgol Fusnes ar agweddau ymarferol y rhaglenni, ac yn benodol ar wella cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth myfyrwyr yr Ysgol. Mae’r amgylchedd cyffrous, arloesol a phroffesiynol hwn wedi bod yn ffactor o bwys wrth sefydlu Ysgol Fusnes fel un o’r ysgolion busnes blaenllaw yng Ngogledd Cymru.

Dros y blynyddoedd, mae Ysgol Fusnes wedi sefydlu nifer o gysylltiadau proffesiynol a rhyngwladol pwysig. Mae’r rhain yn cynnwys cysylltiadau â Phrifysgol Georgetown yn yr Unol Daleithiau yn ogystal â sefydliadau yn Awstria, Rwsia, yr Almaen, y Ffindir a Tsieina. Mae’r cysylltiadau hyn nid yn unig yn hybu buddiannau amrywiaeth ddiwylliannol ond hefyd yn galluogi cyfnewid rhwng staff a myfyrwyr, gan ddarparu amgylchedd ysgogol ac amrywiol i chi astudio ynddi.

Mae’r cysylltiadau proffesiynol yn cynnwys y rhai gyda mudiadau fel y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM), y Sefydliad Personél a Datblygu Siartredig (CIPD), y Sefydliad Cyfrifwyr Rheolaeth Siartredig (CIMA) yn ogystal ag ystod eang o fusnesau lleol a chenedlaethol a mudiadau sector cyhoeddus. Nid yn unig y mae’r cysylltiadau hyn yn sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddiweddaru a’i gadw’n berthnasol i anghenion busnes heddiw, mae hefyd yn darparu cyfleoedd gyrfaol defnyddiol ar gyfer myfyrwyr sy’n cwblhau eu rhaglenni yn llwyddiannus.

Mae gan yr Ysgol gofnod rhagorol o gyflogadwyedd â 90% yn mynd i gyflogaeth lawn-amser neu astudio pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio. Un o’r rhesymau am hyn yw bod y myfyrwyr israddedig i gyd yn cymryd modiwlau datblygu gyrfa i’w cefnogi wrth gynllunio’u gyrfa. Yn ogystal, mae’r Cynllun Menter Graddedigion Ifanc yn darparu myfyrwyr â’r cyfle i redeg eu busnes eu hunain, a thrwy hynny yn ennill profiad uniongyrchol o gydbwyso’r holl ffactorau sy’n gwneud menter fusnes lwyddiannus.

Mae’r Ysgol yn cefnogi canolfan ymchwil, y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Menter Gynaliadwy, sy’n archwilio modelau a meddwl newydd ar gyfer dyfodol cynaliadwy gan ganolbwyntio’n arbennig ar gyfiawnder ecolegol a chymdeithasol.

Ysgolion academaidd