Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru
Mae’r gwaith eithriadol a gynhyrchir gan fyfyrwyr Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru wedi rhoi enw da i’r Ysgol yn rhyngwladol ar gyfer arloesedd a rhagoriaeth. Amlygir hyn yn gyson gan nifer ac ystod y gwobrau a enillir gan fyfyrwyr yr Ysgol mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys Gwobrau mawr eu bri D&AD a gwobr llyfrau Macmillan.
Y mae staff yr Ysgol yn gyfarwydd iawn ag ennill gwobrau hefyd, ac mae gan lawer ohonynt gysylltiadau pwysig ag asiantaethau proffesiynol amlwg. Mae bron pob un o’r staff yn arddangos eu gwaith yn gyson neu ynteu’n ymgymryd â chomisiynau ac ymgynghoriaethau. Maent yn dangos ymroddiad dihafal ac angerdd am eu pwnc yn ogystal ag yn ymroi i wneud ymchwil gyfoes.
Y mae’r ystod eang o raglenni a gynigir gan yr Ysgol yn cynnwys celf draddodiadol a chyfoes â rhai ohonynt yn unigryw yn y DU - Prifysgol Glyndŵr yw’r unig sefydliad yn y DU i gynnig gradd mewn Darlunio ar gyfer Cyhoeddiadau Plant. Lansir rhaglen israddedig gyffrous arall yn 2009 mewn Darlunio ar gyfer Nofelau Graffeg. Y mae hyn yn archwilio genre’r “llyfr comig.” Hefyd ar gynnig am y tro cyntaf eleni mae yna raddau newydd mewn Ffasiwn a Thecstiliau, Celfyddyd Ddigidol ar gyfer Gêmau Cyfrifiadur a hefyd Cynllunio Addurnol. Y mae’r berthynas agos rhwng yr Ysgol â phynciau a meysydd academaidd eraill ym Mhrifysgol Glyndŵr yn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu gweld cymwysiadau ymarferol ar gyfer eu medrau ar draws ystod eang o alwedigaethau. Y mae’r gefnogaeth a roddir gan Uned Menter y Brifysgol wedi galluogi llawer o raddedigion yr Ysgol i sefydlu eu busnesau llwyddiannus eu hunain.
Mae’r Ysgol yn cefnogi’r Canolfan Ymchwil i Gelf a Dylunio, sy’n canolbwyntio ar ymchwil ymarferol, dylunio, arloesedd a menter ynghyd ag ymchwil cymwysedig er datblygu cwricwlwm.
Lleolir yr Ysgol ger canol y dref o fewn taith gerdded bum munud o gampws Plas Coch. Y mae wedi’i lleoli mewn adeilad cyn Fictorianaidd yn llawn cymeriad ac ysbrydoliaeth. Mae ganddi weithdai mawr a chanddynt gyfleusterau gwych â gweithfannau unigol ar gyfer myfyrwyr. Y mae gan yr Ysgol gysylltiadau gweithio gwych ag Ewrop ac yn rhyngwladol ac y mae gan fyfyrwyr gyfle i astudio eu pwnc yng Ngwlad Pwyl, y Ffindir, Bwlgaria, yr Eidal, yr India a Tseina. Y mae’r rhain i gyd yn wledydd y mae gan yr Ysgol gysylltiadau hirsefydlog â’u prifysgolion a’u hysgolion dylunio.

