Ysgol y Dyniaethau
Mae Ysgol y Dyniaethau yn gartref i ystod eang o bynciau: Ysgrifennu, Saesneg, Hanes, Theatr a Pherfformiad, Astudiaethau’r Cyfryngau a Chyfathrebu drwy’r Cyfryngau. Mae datblygiadau newydd ar y gweill hefyd mewn Newyddiaduraeth a Darlledu a gradd sylfaen mewn Cyfieithu.
Mae’r Ysgol hefyd yn gyfrifol am drefnu Tystysgrif mewn Hanes Teuluol a Lleol a chyrsiau byr mewn Astudiaethau Celtaidd, yr Iaith Gymraeg, Ieithoedd Ewropeaidd ac Astudiaethau Prydeinig. Ar ben hyn, mae’r Ysgol yn darparu dwy raglen ôl-radd a ddysgir, sef MA mewn Diwylliant Llenyddol Saesneg: 1880-1920 ac MA mewn Hanes Lleol.
Mae’r Ysgol yn gyfeillgar ac agos-atoch, ac mae rhoi cefnogaeth ac anogaeth i bob myfyriwr yn bwysig iawn inni. Y mae dulliau addysgu a dysgu oddi mewn i Ysgol y Dyniaethau yn amrywio, o ddarlithiau ffurfiol a sesiynau gwylio, i seminarau, tiwtorialau a gweithdai. Y mae gan y staff gymwysterau uchel, o ran statws academaidd a phrofiad proffesiynol, ac y mae nifer ohonynt yn ymgymryd ag ymarfer proffesiynol cyfredol (mewn meysydd megis Ysgrifennu, Newyddiaduriaeth, Darlledu a Theatr a Pherfformiad) a adlewyrchir yn eu haddysgu, ac yn darparu cysylltiadau i’r myfyrwyr.
Mae rhaglenni gradd yn y Dyniaethau yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno ehangu eu gorwelion, ac sydd angen rhaglen astudiaeth ysgogol a fydd yn gweithredu fel sbardun i bosibiliadau gyrfa amrywiol a chyffrous. Gellir cyfuno pynciau ar draws y portffolio BA, ac mae ystod o deitlau gradd ar gael. Mae myfyrwyr yn yr Ysgol yn dod o bob math o gefndiroedd, o’r rhai sy’n dod yn syth o’r chweched dosbarth i’r myfyrwyr hynny sy’n dychwelyd i addysg er mwyn hyrwyddo eu gyrfa.
Mae gan Ysgol y Dyniaethau gysylltiadau cyffrous â theatrau lleol, gan gynnwys Clwyd Theatr Cymru ynghyd â chysylltiadau â sefydliadau, gan gynnwys y BBC, cynghorau a sefydliadau lleol yn ogystal â chwmnïau yn y rhanbarth.
Mae cyfleusterau rhagorol ar y campws â gofod perfformio pwrpasol yn Stiwdios Terry Hands ar gyfer myfyrwyr Theatr a Pherfformio a chanolfan cynadledda newydd, a fydd yn cynnwys theatr, y bwriedir ei agor ym 2009.

