Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer
Prif amcanion yr Ysgol Iechyd, Gofal Cymdeithasol, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer yw ymchwilio a hyrwyddo arfer gorau yn y sector iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon a gwella iechyd, ffitrwydd a lles y genedl.
Mae gennym brofiad helaeth o gyflenwi rhaglenni nyrsio ac yn cynnig rhaglenni cyrsiau cyn-cofrestru ac ôl-gofrestru sydd wedi’u haddasu i’r gyrfaoedd arbenigol amrywiol a gynigir yn y sector iechyd. Yn ogystal, mae’r Ysgol yn cynnig rhaglen radd mewn therapi galwedigaethol a graddau mewn therapïau cyflenwol sy’n cwmpasu nifer o therapïau gan gynnwys Aciwbigo, Tui Na, Tai Qi, Qi Gong a Meddygaeth Patent Llysieuol Tsieineaidd.
Mae’r cyrsiau hyn yn cynnig profiad ymarferol helaeth naill ai mewn lleoliadau gwaith ysbyty ar gyfer y graddau nyrsio neu o fewn y Clinig Meddygaeth Dsieineaidd ar gyfer y graddau therapïau cyflenwol.
Mae’r graddau gwyddorau chwaraeon ac ymarfer ym Mhrifysgol Glyndŵr yn anelu at gwmpasu ystod eang o bynciau er mwyn i fyfyrwyr ddeall yn llawn sut y cymhwysir gwyddoniaeth i chwaraeon. Mae gan y Brifysgol gyfleusterau rhagorol ar y campws gan gynnwys Labordy Perfformiad Dynol ag offer llawn, neuadd chwaraeon chwe chwrt modern a chae chwarae pob tywydd â llifoleuadau a chae hoci sylfaen-dŵr o safon ryngwladol.
Mae’r rhaglenni cyfiawnder troseddol a pholisi cymdeithasol o fewn yr Ysgol hon yn ffordd ddelfrydol o ddatblygu dealltwriaeth o’r materion presennol mewn arfer a pholisi cyfiawnder troseddol ac mae Prifysgol Glyndŵr yn un o ddim ond dyrnaid o sefydliadau addysg uwch yn y Du sy’n rhedeg gradd Defnyddio Sylweddau ar hyn o bryd.
Mae’r Tîm Cyfiawnder Troseddol yn rhedeg BA (Anrhy) llawn-amser mewn Cyfiawnder Troseddol a gradd Feistr mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol llawn-amser a rhan-amser. Mae gan y rhaglenni poblogaidd hyn ymroddiad cryf i alluogi myfyrwyr i archwilio’n feirniadol y cyd-destun, materion a phroblemau a godir wrth reoli ac ymateb i drosedd yn ystod y 21ain ganrif. Dysgir y rhaglenni hyn gan academyddion sy’n ymchwilio, cyhoeddi llyfrau a chylchgronau, a hefyd yn deall natur y gweithle: mae pob un o’r staff wedi gweithio o fewn y system cyfiawnder troseddol mewn swyddi gwahanol gan gynnwys bargyfreithiwr, swyddog prawf, gweithiwr cyfiawnder ieuenctid, gweithiwr cynnal cymorth i fenywod, gweithiwr a mentor cyffuriau. Themâu cadarn sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil ac arbenigedd y staff yw camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder ieuenctid, iechyd meddwl a phartneriaethau aml-asiantaeth. Nod y ddwy raglen (BA & MA) yw hyfforddi a galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth er mwyn datblygu a gwellau polisi ac ymarfer yn y gweithle.
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi bod yn rhedeg rhaglenni gwaith cymdeithasol ers dros 25 mlynedd. Mae’r radd yma yn arwain at gymhwyster proffesiynol cydnabyddedig yn y maes yma ac yn pwysleisio cyfleoedd dysgu ymarfer.
Mae’r Uned Ymchwil Cynhwysiad Cymdeithasol a’r Ganolfan ar gyfer Ymchwil Iechyd a Chymuned o fewn yr Ysgol hon yn ymgymryd â nifer o brosiectau diddorol ym mhrif feysydd teuluoedd, pobl ifanc a phlant, deiet a maeth, camddefnyddio sylweddau, diwylliant Cymru a’r iaith Gymraeg.

